Cyllideb y Cyngor 2023-24: Beth mae’n ei olygu i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 24 Chwefror 2023
Mae cynigion y gyllideb ar gyfer 2023-24 wedi cael eu cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau y gall yr awdurdod lleol barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, a thaclo rhai o’r heriau mwyaf anodd y mae wedi’u hwynebu erioed.
Os caiff ei chymeradwyo pan gaiff ei chyflwyno i’r Cyngor am benderfyniad terfynol ar 1 Mawrth, byddai’r gyllideb yn golygu y bydd yr awdurdod yn gwario dros £92.79m ar wasanaethau hanfodol a ddarperir gan y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y flwyddyn nesaf - cynnydd o dros £12m mewn cyllid.
Bydd hyn yn cynnwys £26m ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn, £24.1m ar gyfer gofal cymdeithasol plant, £21m ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a £5.6m ar gyfer gwasanaethau sy’n gofalu am les pobl, cynnal eu hannibyniaeth a’u hatal rhag bod angen cefnogaeth bellach cyn hired ag sy’n bosibl.
Bydd dros £5.5m yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu a namau synhwyrol, a bydd £5.2m yn cael ei ddefnyddio er mwyn rheoli a darparu gwasanaethau ar gyfer oedolion. Bydd £8.4m pellach yn cael ei ddefnyddio ar helpu oedolion ag anghenion iechyd meddwl.
Bydd dros £692,000 yn cael ei fuddsoddi ar ddiweddaru a gwella gwasanaethau teleofal i bobl leol - prosiect sy’n helpu pobl i fyw gartref yn annibynnol drwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i fonitro eu lles a helpu i’w cadw nhw’n ddiogel.
Mae’r cyngor hefyd yn parhau i fuddsoddi i’r gweithlu gofal cymdeithasol, gydag ymgyrchoedd recriwtio parhaus yn annog staff i fwynhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith wrth gael cefnogaeth a hyblygrwydd llwyr wrth eu gwaith, cyfleoedd datblygu a hyfforddiant, rhagolygon ar gyfer symud ymlaen yn eu gyrfaoedd a mwy.
At ei gilydd, mae’r gyllideb hon wedi bod yn un o’r rhai anoddaf y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i gosod erioed, ond dwi’n falch iawn bod Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’u cydnabod yn faes blaenoriaeth er mwyn derbyn mwy o gyllid.
Boed os yw wedi cynnwys materion megis effaith hirdymor pandemig Covid-19 ar ein cyllidebau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, neu’r staff ychwanegol sydd wedi bod yn angenrheidiol yn ein lleoliadau preswyl, rydym yn parhau i brofi ystod eang o alw cynyddol a phwysau ar ein gwasanaethau. Ar yr un pryd, rydym wedi bod yn gweithio’n rhagweithiol ar ddarparu gwelliannau, ac fel mae ein staff a’r gweithlu wedi dangos dro ar ol tro, does dim dwywaith bod eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd yn rhagorol.
Yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus helaeth a gynhaliwyd wrth ddatblygu’r cynigion hyn, dywedodd preswylwyr wrthym fod angen gwerthfawrogi gwasanaethau gofal cymdeithasol, ac mae’r gyllideb hon yn bendant yn adlewyrchu hynny. Fel yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y maes hwn, rwyf am i’r cyngor allu darparu safonau uchel a gwasanaeth o’r radd flaenaf, y math o wasanaeth y byddwn i’n fodlon arno pe byddai un o fy nheulu i’n ei dderbyn.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Lles:
Bydd cyllideb y cyngor ar gyfer 2023-24 yn cael ei thrafod gan bob aelod yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Mercher 1 Mawrth, cyn gwneud penderfyniad terfynol.