Cyllideb o £300,000 i fyfyrwyr ar gyfer teithio i Goleg Penybont
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 04 Awst 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo sut y bydd cronfeydd arian yn cael eu defnyddio i ddarparu pasys bws blynyddol safonol i fyfyrwyr coleg yn y flwyddyn academaidd nesaf, sef myfyrwyr sy’n byw ymhellach na thair milltir o Goleg Penybont. Bydd y pasys yn cael eu defnyddio ar wasanaethau presennol First Cymru, yn hytrach nag ar wasanaeth bysiau coleg pwrpasol – rhywbeth a fydd, yn ei dro, yn cefnogi rhwydweithiau bysiau ledled y fwrdeistref sirol.
Ar hyn o bryd, First Cymru sy’n darparu gwasanaethau pwrpasol ar gyfer cludo myfyrwyr yn ôl a blaen i gampysau Coleg Penybont. Nid yw’r contract, a ddaw i ben ym mis Gorffennaf, wedi cael ei adnewyddu ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, a hynny oherwydd ansicrwydd ynglŷn â faint o arian yr oedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi at wasanaethau bysiau – mater sydd bellach wedi’i ddatrys.
Gan fod yr amser yn brin ar gyfer caffael gwasanaeth dan gontract cyn mis Medi, bydd pob dysgwr cymwys yn cael pàs digidol – neu ‘e-docyn’ – First Cymru rhad ac am ddim. Anogir y myfyrwyr i gynnau eu tocyn gyda ‘Fy Ngherdyn Teithio’ – sef cynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig arbedion o 30% ar deithiau bysiau i bobl ifanc 16-21 oed yng Nghymru. Disgwylir y bydd y cyngor hefyd yn arbed hyd at 34% pe bai myfyrwyr yn defnyddio pasys teithio Llywodraeth Cymru.
Rydym yn llawn cyffro ynglŷn â’r cynnig newydd hwn ar gyfer teithio’n ôl a blaen i’r coleg. Mae nifer o fanteision yn perthyn iddo, yn cynnwys cefnogi cynaliadwyedd a chefnogi rhwydweithiau bysiau’r fwrdeistref sirol trwy ddefnyddio gwasanaethau bysiau cyhoeddus sy’n bodoli eisoes.
Hefyd, bydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gynnau eu tocynnau ‘Fy Nhocyn Teithio’ rhad ac am ddim, a fydd yn arbed arian iddyn nhw ac yn arwain at arbedion effeithlonrwydd ariannol i wasanaethau’r cyngor.
Ein bwriad yw gweithio gyda Choleg Penybont i hyrwyddo’r cynnig newydd ar gyfer teithio’n ôl a blaen i’r coleg, yn cynnwys y manteision a ddaw i ran y myfyrwyr trwy ddefnyddio cynllun ‘Fy Nhocyn Teithio’ gan Lywodraeth Cymru. Cyfnod cyffrous i bawb!
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg