Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyllid i ysgolion coedwig i wella llesiant plant

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael £400k o gyllid Llywodraeth Cymru i greu ysgolion coedwig awyr agored mewn wyth o ysgolion cynradd ledled y fwrdeistref sirol.

Mae’r cyllid yn rhan o Grant Ysgolion Bro mwy, gwerth £2m, a gynigir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu defnydd cymunedol o ysgolion.  Rhwng 2023 a 2025, bydd y cyllid yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau mewn ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda sefydlu ysgolion coedwig ymysg y mentrau hyn.

Ceir ysgolion a ddewiswyd i gynnal y ddarpariaeth ddysgu awyr agored ym mhob ardal:

  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon John Lewis, Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Ysgol Gynradd Betws ac Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd (darpariaeth a rennir), yng Nghwm Garw.
  • Ysgol Gynradd y Pȋl, yn Neuadd Cynffig / y Pîl / ardal Corneli.
  • Ysgol Gynradd Llangynwyd, yng Nghwm Llynfi
  • Ysgol Gynradd Cwm Ogwr, yng Nghwm Ogwr.
  • Ysgol Gynradd Croesty, Pencoed.
  • Ysgol Gynradd Notais, Porthcawl.
  • Ysgol Gynradd Tondu, ym Mhorth y Cymoedd.

Bydd y ddarpariaeth ysgolion coedwig yn cael ei defnyddio gan ysgolion, sefydliadau awdurdodau lleol mewnol, a sefydliadau cymunedol allanol.  Y nod yw hyrwyddo dysgu awyr agored a llesiant, yn ogystal ag annog pobl i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored a phrofi buddion bod yn y byd naturiol.

Mae’r amgylchedd naturiol a dysgu awyr agored yn chwarae rôl sylweddol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Dywedodd Sue Williams, Arweinydd Tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol: “Rydym wrth ein bodd fod dysgu yn yr awyr agored nawr yn cael ei gydnabod yn gyfwerth â bod yn yr ystafell ddosbarth dan do, a bod dysgu awyr agored yn cael ei osod fel addysgeg (dull addysgu) y bydd pob sefydliad yn ei defnyddio.”

Mae’r cwricwlwm newydd yn cynnwys pob dysgwr rhwng tair a 16 oed ac fe’i rhoddwyd ar waith am y tro cyntaf ym mis Medi 2022 i holl blant ysgolion cynradd, ac i Flwyddyn 7 mewn rhai ysgolion uwchradd. Ers mis Medi 2023, addysgir holl ddisgyblion Blwyddyn 7 a 9 drwy'r cwricwlwm newydd, gyda’r ddarpariaeth ohono yn datblygu bob blwyddyn, hyd nes y bydd disgyblion Blwyddyn 11 yn cael eu cynnwys erbyn 2026.

Am ffordd wych i’n hysgolion symud ymlaen a chroesawu'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae ymchwil yn dangos sut y gall dysgu yn yr awyr agored arwain at lefelau uchel o lesiant, hyder ac ymgysylltiad ynghyd â datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol.

Mae ymgynghorydd ysgol goedwig wedi cwrdd â phob un o’r ysgolion a enwyd ac mae’n gweithio ar luniadau cysyniad ar hyn o bryd. Bydd yr ymgynghorydd yn parhau i weithio’n agos â’r ysgolion i gynllunio, sefydlu a datblygu eu tiroedd i greu’r ysgolion coedwig.

Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru, sy’n ein galluogi i gynnig y ddarpariaeth awyr agored hon i’n dysgwyr a’n cymunedau ehangach.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y