Cyllid grant ar gyfer mwy na 30 o Hybiau Cynnes
Poster information
Posted on: Dydd Llun 20 Chwefror 2023
Mae disgwyl i fwy na 30 o grwpiau a chanolfannau cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr dderbyn cyllid grant wrth iddynt barhau i agor mannau cynnes i bobl ddod ynghyd.
Mae’r Cynllun Grant Hybiau Cynnes, sydd ar agor ar gyfer ceisiadau hyd nes y bydd y cyllid yn dod i ben, yn cael ei weinyddu gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO).
Mae grantiau hyd at £2,000 ar gael i ganolfannau cymunedol, grwpiau, cyfleusterau, yn ogystal â mentrau dielw. Mae’r cyllid ar gael i gefnogi mannau cynnes newydd neu rai sydd eisoes yn bodoli, lle gall pobl ddod ynghyd, cymryd rhan mewn gweithgareddau, ac ymgysylltu. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Hyd yma mae ceisiadau am gyllid dros 30 o sefydliadau wedi cael eu cymeradwyo - sef
Splice Child and Family; Allgymorth Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr (BARC), Prosiect Cymunedol Noddfa, Ymddiriedolaeth Datblygiad Caerau, Canolfan Gymunedol Talbot; NatureQuest; Clwb Bechgyn a Merched Nantymoel; Clwb Cinio Corneli a’r Cylch; Sense; Clwb Bechgyn a Merched Wyndham; Ymddiriedolaeth Datblygiad Corneli a’r Cylch (CADDT); Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr; Clwb Rygbi’r Pîl; Clwb Rygbi Bryncethin; STEER; Clwb Ieuenctid Wildmill; Y Bont; Inclusability; Prosiect Cwm Llynfi 11-25 (The Courthouse); Ogmore Vale Bows Ltd; The Rectorial Benefice of Margam - Neuadd Eglwys All Saints; Grŵp Allgymorth Corneli; Cylch Chwarae Gogledd Corneli; Eglwys All Saints Pen y Fai; Canolfan yr Eglwys Wesleaidd Tondu; Clwb Paffio Dreigiau Cwm Ogwr; Eglwys Efengylaidd Peniel - Maesteg; Cyngor Tref Porthcawl – Man Cynnes Pafiliwn Bowlio Parc Griffin; Cyngor Cymunedol Laleston – Canolfan Gymunedol Bryntirion; Tanio; Clwb Pêl-droed Llangeinwyr; Clwb Rygbi Mynydd Cynffig a Calon y Cwm yn Neuadd William Trigg, Blaengarw.
Gall grwpiau cymwys wneud cais am grant trwy wefan BAVO’. Mae’r panel grantiau yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos i sicrhau prosesau cyflym i ymgeiswyr.
Mae Mannau Cynnes ar draws ein bwrdeistref sirol yn cynnig lle diogel, cynnes a chroesawgar i nifer y gaeaf hwn gyda llawer o ddiodydd cynnes ar gael ac ystod o weithgareddau mewn rhai achosion, gan gynnwys gweithgareddau crefft a cherddoriaeth fyw.
Hoffem ddiolch i’r rhai sy’n darparu’r mannau allweddol bwysig hyn. Er bod llawer o’r cyllid wedi cael ei ddyrannu erbyn hyn, byddem yn annog unrhyw Hybiau Cynnes nad ydynt wedi gwneud cais am grant eto i wneud hynny cyn iddo gau maes o law.
Dywedodd Cydlynydd Costau Byw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Maxine Barrett