Cyhoeddi ymgyrch Nadolig blynyddol i gefnogi canol trefi.
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024
Mae'r cyngor yn cyhoeddi ei ymgyrch blynyddol ‘Treuliwch yr Ŵyl yng nghanol eich tref' yr wythnos hon, er mwyn annog pobl i ‘siopa’n lleol' a chefnogi busnesau annibynnol a digwyddiadau yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig.
Gan hyrwyddo amserlen orlawn o hwyl yr ŵyl ar draws y fwrdeistref sirol, mae'r ymgyrch yn cynnwys y digwyddiadau poblogaidd Goleuo Goleuadau'r Nadolig, Parêd Nadolig, Nadolig Fictoraidd, a Gŵyl Santa a drefnir gan Gynghorau Tref Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl. Ceir rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a gorymdeithiau'r Nadolig a gynhelir ar draws y fwrdeistref sirol ar wefan y cyngor.
Gall siopwyr Nadolig edrych ymlaen at amrywiaeth eang o nwyddau wedi'u crefftio â llaw a chynnyrch tymhorol ym marchnadoedd stryd Nadolig traddodiadol Green Top, yn ogystal â chynigion a hyrwyddiadau arbennig gan fusnesau a bwytai lleol wrth i'r wefan 'Nadolig Digidol' ddychwelyd.
Gellir manteisio ar y cynigion arbennig drwy lawrlwytho’r apiau poblogaidd ‘We Love BRIDGEND / MAESTEG / PORTHCAWL’ ar yr Apple App Store neu Google Play drwy chwilio am BRIDGEND/ PORTHCAWL / MAESTEG.
Gall ymwelwyr hefyd fanteisio ar fenter parcio am ddim presennol y cyngor yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl.
- Y Rhiw, Pen-y-bont ar Ogwr (tair awr gyntaf)
- Maes Parcio Stryd John, Porthcawl (rhwng 12pm a 3pm)
- Ffordd Llynfi, Maesteg (drwy gydol y flwyddyn)
Gall pobl sy'n ymweld â chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl 6pm hefyd barcio am ddim yn y maes parcio awyr agored mawr yn Stryd Bracla (y tu ôl i Wilkinsons) ac ym meysydd parcio Heol Tremains, Heol Tondu a Chanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr. Mae gwybodaeth bellach am barcio canol y dref hefyd i'w chael ar wefan y cyngor.
Rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu cefnogi cynghorau tref lleol gyda'r llu o ddigwyddiadau cyffrous sy'n cael eu cynnal dros gyfnod y Nadolig, a fydd nid yn unig yn hybu nifer yr ymwelwyr yng nghanol ein trefi ond hefyd yn pwysleisio ysbryd ein cymunedau.
Mae gennym ddetholiad gwych o fasnachwyr annibynnol yn cynnig llond gwlad o gynnyrch, a nifer cynyddol o fwytai 'cyrchfan' yn y fwrdeistref sirol, a thrwy siopa'n lleol a chefnogi busnesau lleol gallwn sicrhau bod canol ein trefi'n aros wrth wraidd ein cymuned ac yn gallu parhau i ffynnu.
Y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio