Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyhoeddi Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel yr awdurdod lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru mewn ailgylchu

(Canol) Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Spanswick, yn ymuno â (Ch-Dd) Cynghorwyr Lleol Richard Williams a Melanie Evans, gyda chynrychiolwyr o Plan B Management Solutions a thîm Ailgylchu a Gwastraff y cyngor.
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Spanswick ac Aelod Seneddol ar gyfer Newid Hinsawdd ac Amgylchedd, y Cynghorydd Paul Davies ynghyd ag aelodau o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chynrychiolwr o Plan B a Gwaith Daear Cymru.

Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’u henwi fel yr awdurdod lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru am ailgylchu.

Yn saethu i’r brig gyda chyfradd ailgylchu o 73%, mae ystadegau diweddar yn datgelu fod y fwrdeistref sirol wedi cynyddu ei pherfformiad 17% dros y degawd diwethaf, a 2% ers y llynedd.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ailgylchu 39K tunnell o wastraff, gan gynnwys bron i 5,000 tunnell o wydr, 11,000 tunnell o wastraff organig a 6,000 tunnell o bapur, gyda dros 9000 tunnell o wastraff wedi ei brosesu mewn canolfannau ailgylchu cymunedol.

Mae cael ein henwi fel yr awdurdod lleol gorau yng Nghymru ar gyfer ailgylchu yn gyflawniad anhygoel ac yn adlewyrchiad o’n hymrwymiad parhaus i wella prosesau ailgylchu yn y fwrdeistref sirol.

Hoffwn ddweud diolch enfawr i’n preswylwyr. Mae’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw yn amlygu’r gefnogaeth barhaus a gawsom gan gartrefi wrth iddyn nhw geisio lleihau eu gwastraff, gyda gostyngiad gwastraff arwyddocaol o dros 100kg fesul person yn ystod y degawd diwethaf.

Hoffwn hefyd ddiolch i’r criw casglu gwastraff ac ailgylchu, gweithwyr a staff sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni. Mae eu gwaith caled a’u hymroddiad i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy gydol y gymuned mewn digwyddiadau addysg ac ymgysylltu yn rhan annatod o’n llwyddiant. Trwy barhau i gydweithio gallwn annog ymdrechion pellach a llwyddiant eto yn y dyfodol wrth helpu i gynnal a gwarchod ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Paul Davies

Chwilio A i Y