Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyhoeddi Arweinydd a Chabinet newydd yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor

Cyfarfu aelodau o Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn gynharach heddiw (Dydd Mercher 15 Mai) ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Cyngor lle'r etholwyd y Cynghorydd John Spanswick ganddynt yn Arweinydd newydd yr Awdurdod.

Daw ei apwyntiad yn dilyn penderfyniad y Cynghorydd Huw David yn ddiweddar i gamu i lawr o'i swydd wedi dros wyth mlynedd yn arwain yr awdurdod. Cafodd y swyddi canlynol yn y Cabinet hefyd eu cadarnhau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:

  • Dirprwy Arweinydd / Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles - Y Cynghorydd Jane Gebbie
  • Aelod Cabinet dros Gyllid a Pherfformiad - Y Cynghorydd Hywel Williams
  • Aelod Cabinet dros y Gwasanaeth Addysg a Phobl Ifanc - Y Cynghorydd Martyn Jones
  • Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd - Y Cynghorydd Paul Davies
  • Aelod Cabinet dros Adnoddau (Rhannu Swydd) - Y Cynghorydd Eugene Caparros / Y Cynghorydd Melanie Evans
  • Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygiad Economaidd a Thai - y Cynghorydd Neelo Farr

 

Bydd Y Cynghorydd Heather Griffiths yn olynu'r Cynghorydd William Kendall fel Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, tra bydd y Cynghorydd Huw David yn gweithredu fel Dirprwy Faer. Maer Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fydd Ellie O'Connell, gyda Daisy Davies yn gweithredu fel y Dirprwy Faer Ieuenctid.

Cafodd y grwpiau gwleidyddol a'r arweinyddion grwpiau eu cadarnhau fel a ganlyn:

  • Llafur - 27 (Y Cynghorydd John Spanswick)
  • Cynghorwyr Annibynnol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr - 13 (Y Cynghorydd Amanda Williams)
  • Y Gynghrair Ddemocrataidd - 8 (Y Cynghorydd Ross Penhale-Thomas)
  • Ceidwadwyr - 1 (dim arweinydd grŵp - mae angen lleiafswm o ddau aelod)

Fe wnaeth dau gynghorydd - Y Cynghorydd Jeff Tildesley a'r Cynghorydd Sean Aspey - ddewis parhau i fod yn annibynnol a pheidio ag ymuno gydag unrhyw grŵp.

Wrth annerch y cyfarfod, meddai'r Arweinydd newydd John Spanswick: "Rwyf am ddiolch i'r aelodau am eu cefnogaeth ac am fy newis i ar gyfer y rôl hon, a hefyd diolch i'r Cynghorydd David am yr arweinyddiaeth gadarn, ddibynadwy a ddangosodd yn gyson dros yr wyth mlynedd ddiwethaf.

"Dyw llywodraeth leol erioed wedi wynebu'r fath amgylchiadau anodd a heriol â'r hyn rydyn ni'n ei wneud nawr, yn arbennig felly yn wyneb yr hyn sydd wedi tyfu i fod yn argyfwng ariannu cenedlaethol ledled y DU. Er gwaethaf hyn, mae gennym ddyletswydd fel aelodau etholedig i weithio gyda'n gilydd, ac i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn gallu parhau.

"Mae hyn yn rhywbeth rwy'n bwriadu canolbwyntio arno mewn mwy o fanylder yn yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod. Yn y cyfamser, gallaf eich sicrhau y byddaf yn trin rôl Arweinydd gyda'r parch, yr ymroddiad a'r ymrwymiad mae'n ei haeddu."

Yn wreiddiol o Nantymoel a bellach yn preswylio yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r Cynghorydd Spanswick wedi byw ym Mracla am dros 30 mlynedd ac wedi cynrychioli'r ardal oddi ar 1992 ar lefel cyngor cymuned ac ar lefel cyngor bwrdeistref ers 1999.

Mae'r Cynghorydd Spanswick wedi dal nifer o swyddi dros y 25 mlynedd ddiwethaf mae wedi bod gyda chyngor Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys rolau craffu, fel rhan o'r pwyllgor Rheoli Datblygiad, ac fel Aelod Cabinet yn edrych ar ôl y portffolio Cymunedau.

Yn dilyn blwyddyn yn Faer Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr, yn fwyaf diweddar bu'n gwasanaethu fel Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, ac mae'n gyn-lywodraethwr ysgol ar gyfer Ysgol Gyfun Brynteg, Ysgol Gynradd Bracla ac Ysgol Gynradd Tremaen.

Wrth gynnig ei gefnogaeth i'r Arweinydd newydd, dywedodd y Cynghorydd Huw David: "Yn ôl pan gefais fy ethol gyntaf i swydd arweinydd, fe wnes i ddatgan bod cynghorwyr yn unol yn yr hyn rydym ni ei gyd ei angen, yr hyn rydym ni'n ei gredu sydd orau ar gyfer y cymunedau a'r bobl rydym ni'n eu cynrychioli.

“Fe wnes i hefyd ddweud bod cynghorau yn parhau i fod yn asgwrn cefn gwasanaethau lleol a'u bod yn cyffwrdd â bywydau pob un preswylydd, ac mae hyn mor wir nawr ag yr oedd bryd hynny.

Chwilio A i Y