Cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2024 ar agor
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 08 Tachwedd 2023
Mae cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2024 ar agor.
Mae'r gwobrau'n gyfle blynyddol i ddathlu cyflawniadau unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at fywyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys trefnydd grŵp cymorth colli baban, preswylydd a wirfoddolodd ei wasanaeth trydanol yn rhad ac am ddim i osod llu o ddiffibrilwyr ar draws y fwrdeistref sirol a warden eglwys sy'n casglu siopa a phresgripsiynau'n rheolaidd i nifer o breswylwyr hŷn.
Mae'n rhaid i'r rhai a enwebwyd fyw neu weithio'n lleol a dangos y math o werthoedd sy’n gwneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych. Efallai eu bod wedi:
- codi arian sylweddol i elusen
- gwneud cymwynas sydd wedi dangos dewrder aruthrol
- mynd y filltir ychwanegol i eraill yn rheolaidd
- rhoi’r gymuned leol ar y map
- cyflawni rhywbeth arbennig iawn dros y 18 mis diwethaf
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i nifer o bobl ysbrydoledig, grwpiau eithriadol a sefydliadau rhagorol sy'n ei gwneud yn lle arbennig i fyw, gweithio ac astudio ynddi ac ymweld â hi.
Rydym eisiau tynnu sylw at yr arwyr di-glod a sefydliadau ymrwymedig sy'n gwneud cyfraniad anhunanol at fywydau eraill.
Rwy'n annog pobl i enwebu unigolion, grwpiau a sefydliadau sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyliadau i wasanaethu eu cymunedau lleol, fel eu bod yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol.
Dywedodd Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd William Kendall:
Mae tair ffordd o enwebu ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer. Gallwch:
- lenwi'r ffurflen ar-lein ar wefan y cyngor.
- lawrlwytho a llenwi'r ffurflen a’i hanfon drwy e-bost at mayor@bridgend.gov.uk gydag ‘Enwebiad ar gyfer Gwobr Dinasyddiaeth 2023’ yn y blwch pwnc.
- lawrlwytho a llenwi'r ffurflen– a'i hanfon i: Parlwr y Maer, Enwebiad ar gyfer Gwobr Dinasyddiaeth y Maer, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Nodwch mai ar gyfer cyflawniadau newydd yn unig y gellir enwebu buddugwyr y gorffennol a dylai pobl sy'n cael eu henwebu ar gyfer gwaith â thâl fod wedi cyflawni gwaith eithriadol y tu hwnt i ddisgwyliadau'r swydd.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw dydd Gwener 12 Ionawr 2024.