Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfleoedd twf i fusnesau wrth groesawu'r digwyddiad Marchnad Menter Gymdeithasol cyntaf erioed i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Peidiwch â cholli cyfle unigryw i gysylltu â mentrau cymdeithasol, elusennau masnachu, sefydliadau cymunedol a llawer o rai eraill ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt.

Cynhelir y digwyddiad gan Cwmpas a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 20 Medi, yng Nghanolfan Gymunedol Bryncethin, sydd dan berchnogaeth y gymuned, a hwn yw’r digwyddiad cyntaf o’i fath ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r digwyddiad wyneb yn wyneb rhad ac am ddim hwn ar gyfer prynwyr a thimau caffael o sectorau cyhoeddus a phreifat, a bydd yn darparu cyfle i ddysgu beth sydd gan y sector menter gymdeithasol i’w gynnig.

Bydd arddangoswyr yn arddangos yr ystod eang o nwyddau a gwasanaethau sydd gan sector menter gymdeithasol de Cymru i’w cynnig. 

Mae’r digwyddiad yn dod â mentrau cymdeithasol, sefydliadau cymunedol, entrepreneuriaid a phrynwyr o'r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ynghyd i greu cysylltiadau masnachu parhaus. Un mynychwr fydd Manumit Coffee Roasters, busnes cymdeithasol moesegol sy’n cynnig cyflogaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i oroeswyr caethwasiaeth modern wrth iddynt ail-adeiladu eu bywydau.  

Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Cwmpas yn rhan allweddol o’n cefnogaeth i fusnesau ac mae gweld digwyddiad newydd sbon yn cyrraedd y fwrdeistref sirol ar ffurf Marchnad Menter Gymdeithasol yn chwa o awyr iach.

Braf hefyd yw gweld y bydd ystod mor eang o wasanaethau yn cael eu cynrychioli yn y digwyddiad gan gynnwys arlwyo, marchnata, adeiladu, pantrïau bwyd, cymorth i ymadawyr gofal, gwasanaeth hunan-amddiffyn i ferched a llawer mwy.

Mae llawer o fusnesau lleol eisoes wedi mynychu gweithdai a dosbarthiadau meistr gan Cwmpas yn ystod y misoedd diwethaf, a dyma gyfle arall eto i greu cysylltiadau amhrisiadwy gydag ystod o sectorau.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Dywedodd Martin Downes FRSA, Arweinydd Dysgu a Datblygu yn Cwmpas ac Arweinydd Prosiect ar gyfer Rhaglen Gymorth Menter Gymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae mentrau cymdeithasol fel Manumit yn rhoi blas ar y cynnig masnachol cryf y mae mentrau cymdeithasol ar draws de Cymru yn ei ddarparu i’r farchnad. Gellir cyflawni cymaint pan mae busnesau'n gweithio i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol a chael effaith gadarnhaol.  

“Ers mis Rhagfyr y llynedd, mae Cwmpas wedi darparu gweithdai, digwyddiadau a sesiynau cymorth busnes un i un, gan helpu mentrau cymdeithasol i rwydweithio, tyfu a chysylltu ar hyd a lled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru.   

“Rydym yn hynod falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal Digwyddiad Marchnad Menter Gymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n gyfle gwych i arddangoswyr a chynrychiolwyr weld yr ystod o gynnyrch a gwasanaeth sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac i ddatblygu rhwydweithiau cyflenwi a darparu. 

“Wrth i fusnesau geisio adeiladu ar flaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) a datblygu’r economi gylchol yn lleol, hwn yw’r cyfle perffaith i sicrhau bod cadwyni cyflenwi yn effeithiol er lles cymuned.” 

Ariennir y Rhaglen Gymorth Menter Gymdeithasol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac mae disgwyl i’r prosiect barhau hyd at ddiwedd Mawrth 2025. 

Ewch draw i Eventbrite i sicrhau eich tocynnau am ddim ar gyfer y Farchnad Menter Gymdeithasol. Bydd cymorth busnes un i un hefyd ar gael.

Chwilio A i Y