Cyfle olaf i wneud cais am gymorth gan Sefydliad Chwaraeon Halo
Poster information
Posted on: Dydd Iau 16 Chwefror 2023
Gall athletwyr lleol ddilyn ôl traed eu harwyr Olympaidd a Pharalympaidd y mis hwn wrth i Sefydliad Chwaraeon Halo agor ar gyfer ceisiadau.
Mae ceisiadau'n cau ddydd Llun 20 Chwefror ac mae'r sefydliad yn darparu cymorth hanfodol megis aelodaeth am ddim i gyfleusterau chwaraeon a hamdden Halo. Bydd cymorth ariannol yn cael ei ddyfarnu i rai ymgeiswyr llwyddiannus hefyd.
Mae cyn-enillydd medal Aur Paralympaidd Aled Davies OBE a thriathletwr cyn-bencampwr y byd Helen Jenkins yn rhai sydd wedi derbyn cymorth gan y cynllun yn y gorffennol.
Mae'r fenter yn agored i athletwyr anabl hefyd ac mae dros 100 o bobl leol yn derbyn cymorth gan y cynllun ar hyn o bryd.
Mae'r sefydliad yn agored i nifer o chwaraeon yn cynnwys triathlon, nofio, saethu, gymnasteg, tennis bwrdd para, jiwdo, rygbi i'r byddar, rygbi, polo dŵr, pêl-rwyd, pêl-fasged, taekwondo, athletau, rhwyfo, syrffio, canŵio, sboncen a thennis. Bydd chwaraeon eraill sy'n cael eu cydnabod gan Chwaraeon Cymru yn cael eu hystyried hefyd.
Meini prawf cymhwystra yw:
- Dylai athletwyr sy'n derbyn cymorth fyw/derbyn addysg (ysgol, coleg, prifysgol) o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
- Bod yn aelod o glwb cysylltiedig sydd â chanolfan hyfforddi o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
- Dylech fod yn cystadlu o fewn disgyblaethau chwaraeon Olympaidd, Paralympaidd, Byddarlympaidd ac Olympaidd Arbennig neu chwaraeon wedi ei ysbrydoli gan chwaraeon Olympaidd.
- Mae ceisiadau ar agor i unrhyw grŵp oed; fodd bynnag, nod y cynllun yw cynorthwyo athletwyr talentog ifanc.
Dywedodd Simon Gwynne, Rheolwr Partneriaeth Halo: “Rydym yn gweld y sefydliad yn gyfle i ni roi rhywbeth yn ôl i gymuned a roddodd gymaint o gefnogaeth i ni.
"Yn ogystal â chynnig cyfleoedd i hyfforddi am ddim, rydym yn cynllunio i gynnal ystod o ddosbarthiadau meistr gan siaradwyr gwadd ar bynciau megis rhagori mewn chwaraeon, perfformiad, maeth, a seicoleg chwaraeon i ysbrydoli athletwyr."
Mae Sefydliad Chwaraeon Halo yn gyfle gwych i ddarpar ddynion a merched chwaraeon dderbyn cymorth hanfodol i’w helpu i ffynnu a chael y cyfle gorau i lwyddo yn eu maes chwaraeon dewisol.
Bydd y sawl sy’n ymgeisio nawr yn dilyn ôl traed rhai o unigolion mwyaf llwyddiannus y Fwrdeistref Sirol mewn chwaraeon ac mae'n arbennig o galonogol i weld bod y sefydliad yn agored i athletwyr anabl yn ogystal ag ymdrin ag ystod eang o chwaraeon.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant: