Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfle heb ei ail i lunio dyfodol man agored arfaethedig Porthcawl

Gan gysylltu â chynlluniau adfywio Porthcawl, bydd dau ddigwyddiad ymgynghori anffurfiol yn cael eu cynnal ym mis Mawrth.  Mae’r digwyddiadau hyn yn gwahodd trigolion lleol i leisio’u barn am sut y dylid defnyddio man agored cyhoeddus arfaethedig Porthcawl.

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ym Mhafiliwn y Grand rhwng 9am a 7pm ddydd Mercher 15 Mawrth a 9am tan 5pm ddydd Iau 23 Mawrth, a bydd y sesiynau’n arddangos nifer o opsiynau posibl, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer datblygu’r man agored cyhoeddus er budd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Wedi’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unol â Siarter Creu Lleoedd Cymru, mae busnesau a thrigolion yn cael eu hannog i ymweld â’r sesiynau galw heibio, gweld byrddau arddangos, siarad â staff adfywio a rhoi eu barn ar y cynigion.

Gyda syniadau posibl yn amrywio o barciau sglefrio, traciau pwmpio a chyfleusterau dŵr fel ‘parc sblash’, i erddi cymunedol, llwybrau cerdded gwyrdd a champfa awyr agored a pharthau gemau amlddefnydd – rydym am annog pobl i gynnig eu syniadau a chynigion eu hunain.

Mae syniadau gwych eraill yn cynnwys amffitheatr awyr agored a lleoliad perfformio, neu le sy’n addas ar gyfer cynnal digwyddiadau tymhorol fel ymweld â marchnadoedd arbenigol, llawr sglefrio Nadolig a mwy.

Rydym am gasglu’r holl safbwyntiau hyn fel y gellir eu dadansoddi a’u hymchwilio’n gywir, a chyflwyno rhai syniadau ein hunain i’w hystyried hefyd.

Cynghorydd Neelo Farr, y Gweinidog Cabinet dros Adfywio

Ar ôl cwblhau’r sesiynau galw heibio, bydd byrddau arddangos ar gael i’w gweld ar-lein ar wefan y cyngor, a gofynnir am sylwadau dros gyfnod arall o dair wythnos.

Bydd adborth yn helpu llunio a llywio’r dyluniad, gan gipio gweledigaeth a rennir ar gyfer gwedd, naws a defnydd mannau agored allweddol yn yr ardal adfywio.            

Rwy’n meddwl y bydd y sesiynau galw heibio yn hynod ddiddorol i bobl. Yn ogystal â chynnig cipolwg ar ddyfodol posibl Porthcawl, maent yn cynnig cyfle i drafod ag arbenigwyr adfywio sut y gallwn gydweithio i gyflawni newid trawsnewidiol ar draws ardal Glannau Porthcawl.

Mae ein cynlluniau adfywio yn mynd i greu llawer o fannau agored cyhoeddus newydd, ac rydym am archwilio pa fathau o gyfleusterau y mae pobl am eu gweld yno.

Dyma gyfle gwych i genhedlaeth bresennol a chenedlaethau nesaf Porthcawl ddweud eu dweud ar ddyfodol Porthcawl.

Cynghorydd Neelo Farr, y Gweinidog Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y