Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwynion dros ddatblygiad tai yn gorfodi'r cyngor i weithredu

Mae swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, yn monitro datblygiad 57 cartref newydd ar safle hen ysgol yn y Drenewydd yn Notais, Porthcawl, ar ôl derbyn cwynion gan drigolion lleol.

Mae'r datblygiad 2.5 hectar yn cael ei adeiladu gan Taylor Wimpey UK ar dir a oedd yn arfer bod yn rhan o Ysgol Sant Ioan, a gaewyd yn 2014.

Ar ôl ei orffen, bydd yn cynnwys naw tŷ a thair ystafell wely, 40 tŷ â phedair ystafell wely ac wyth tŷ fforddiadwy.

Ar ôl derbyn y cwynion, mae ymweliadau safle wedi cael eu cynnal, ac mae'r datblygwr wedi cael rhestr o gamau y mae'n rhaid eu cwblhau i osgoi torri amodau cynllunio cymeradwy.

Yn eu plith mae gosod cyfleuster golchi olwynion i osgoi cario llaid ar y briffordd, a defnyddio bordiau ffiniau a chanonau dŵr i atal problemau gyda llwch.

Aeth y swyddogion ati hefyd i drefnu bod arolwg yn cael ei gwblhau o iechyd coed ar y safle, a nodwyd bod rhai mesurau eisoes wedi'u cymryd i'w diogelu nhw rhag difrod.

Ar hyn o bryd, mae'r safle'n cael ei fonitro'n agos ar gyfer cydymffurfiaeth, gan gynnwys oriau adeiladu, ac os bydd yn ofynnol, bydd camau pellach yn cael eu cymryd.

Chwilio A i Y