Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwrt Blodau Amlosgfa Llangrallo i gael uwchraddiad gwerth £1.2 miliwn

Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i gwblhau uwchraddiad gwerth £1.2 miliwn i gwrt blodau Amlosgfa Llangrallo. Yr estyniad fydd yr ychwanegiad strwythurol cyntaf i rannau cyhoeddus y prif adeilad ers ei agor yn 1970. 

Mae'r dyluniad yn ystyrlon o nodweddion unigryw, hanes a statws rhestredig yr Amlosgfa. 

Nodwyd 50 mlynedd ers agor yr Amlosgfa pan oedd y pandemig ar ei anterth yn 2020, ac mae'r gwelliannau'n ffordd addas o nodi'r achlysur. 

Maxwell Fry, pensaer Prydeinig sydd ag enw da rhyngwladol, oedd y dylunydd gwreiddiol, ac mae'r gwelliannau diweddaraf yn cael ei goruchwylio gan y pensaer o Gymru, Jonathan Adams (Percy Thomas Architects, Capita Real Estate and Infrastructure). Mae ei brosiectau nodedig yn cynnwys Canolfan Mileniwm urddasol Cymru ym Mae Caerdydd, pencadlys newydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) yn Llandaf a'r gwaith adnewyddu yn Theatr Sherman yng Nghaerdydd.

Rhoddodd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo ganiatâd i ymestyn cefn adeilad yr Amlosgfa at ardal o laswellt y tu allan i allanfa Capel Crallo. Bydd hyn yn helpu i gynulleidfaoedd adael y capel yn haws a bydd yn datrys problemau mynediad at y cyfleusterau toiled, sydd weithiau'n gallu achosi gohiriadau i wasanaethau dilynol oherwydd bod cymaint o bobl yn yr ardal. 

Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn yr haf a bydd yr Amlosgfa'n parhau'n weithredol drwy gydol y gwaith adeiladu.

Er mwyn galluogi i'r gwaith fynd rhagddo mor gyflym â phosibl, bydd yr holl angladdau bellach yn cael eu cynnal yng Nghapel Coety'r Amlosgfa, hyd nes i’r prosiect gael ei gwblhau. 

Mae lle i drigain o bobl yng Nghapel Coety, a dim ond ychydig yn llai o angladdau fydd yn cael eu cynnal yn ddyddiol er mwyn caniatáu ar gyfer natur gyfyngedig y fynedfa a drysau ymadael Capel Coety, ynghyd â'r gwaith adeiladu sy'n digwydd ar y safle. 

Mae'r prosiect yn cynnig ffordd addas o foderneiddio’r Amlosgfa drwy wella mynediad ar gyfer unrhyw un sy'n mynychu angladd. Mae Amlosgiadau'n fwy cyffredin erbyn hyn o’i gymharu â phryd agorwyd yr adeilad yn wreiddiol, ac mae'n bwysig ein bod yn addasu ac yn buddsoddi yn yr adeilad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rwy'n gwerthfawrogi y gallai ychydig o aflonyddwch ddigwydd yn sgil y gwaith helaeth, ond bydd hyn yn bendant yn helpu i wella profiadau galarwyr a theuluoedd mewn profedigaeth yn y tymor hwy.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo:

Chwilio A i Y