Croesawu mynegiannau o ddiddordeb ar gyfer Cronfa Gymorth Digwyddiadau Twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 15 Chwefror 2024
Mae trefnwyr digwyddiadau twristiaeth bellach yn gallu mynegi diddordeb yng Nghronfa Gymorth Digwyddiadau Twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, ei nod yw hybu nifer yr ymwelwyr dros nos o'r tu allan i'r ardal.
Mae’r cynllun grant, sy’n cael ei ariannu’n llawn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ar agor i drefnwyr digwyddiadau twristiaeth a fydd yn marchnata Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i leoliadau ar draws y Deyrnas Unedig, rhwng mis Ebrill 2024 a mis Ionawr 2025.
Bydd y gronfa'n cefnogi digwyddiadau sy'n cyd-fynd â Chynllun Rheoli Cyrchfan y cyngor gyda'r diben o hybu'r economi leol drwy gynhyrchu refeniw i fusnesau lleol, creu swyddi, neu hyrwyddo'r rhanbarth fel cyrchfan i dwristiaid.
Rhoddir blaenoriaeth i ddigwyddiadau sy'n newydd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu ddigwyddiadau a all ddangos potensial sylweddol ar gyfer twf.
Bydd digwyddiadau presennol hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer cefnogaeth pryd bynnag y gall yr ymgeisydd ddangos sut mae'n bwriadu ychwanegu gwerth mewn cymhariaeth â blynyddoedd blaenorol, er enghraifft trwy gynyddu capasiti, ychwanegu elfennau newydd neu gyflwyno digwyddiadau deilliedig neu ategol.
Rydym yn annog holl drefnwyr digwyddiadau twristiaeth i gysylltu â’r cyngor i archwilio unrhyw syniadau ac i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer cymorth gwerthfawr.
Un o brif fanteision twristiaeth digwyddiadau yw y gall gwyliau a digwyddiadau ddenu ymwelwyr newydd i sbarduno twf ar draws y fwrdeistref sirol o safbwynt cymdeithasol ac economaidd.
Mae tirwedd amrywiol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn golygu bod yr ardal yn addas iawn ar gyfer cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth. Er enghraifft, dim ond y llynedd, cynhaliwyd y twrnamaint golff Agored Hŷn ym Mhorthcawl, a denodd hyn lawer o ymwelwyr i’r ardal o bob rhan o’r byd.
Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles:
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn £19m a £3.9m pellach ar gyfer y rhaglen Lluosi ar draws refeniw a chyfalaf, drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer y cyfnod Ebrill 2022 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle drwy fuddsoddi mewn cymunedau lleol a chefnogi busnesau, pobl a sgiliau lleol.
Gofynnir i Drefnwyr Digwyddiadau Twristiaeth ymweld â gwefan y cyngor am ragor o wybodaeth ac i lenwi'r ffurflen mynegi diddordeb.
Mae tîm twristiaeth y cyngor yn awyddus i glywed gan drefnwyr digwyddiadau am eu syniadau. Cysylltwch â events@bridgend.gov.uk i drefnu sgwrs anffurfiol i drafod ymhellach.