Contractwr wedi’i benodi ar gyfer Cynllun Insiwleiddio Wal Caerau
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 10 Ebrill 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi penodi Warmworks fel y prif gontractwr ar gyfer gwaith adfer wal Caerau yn dilyn proses gaffael drylwyr.
Bydd y contractwr yn gyfrifol am dynnu unrhyw waith insiwleiddiad annigonol a gosod insiwleiddio newydd sy’n bodloni’r safonau ansawdd diweddaraf yn ei le.
Bydd nifer o drigolion yn gyfarwydd â Warmworks wrth iddynt ddarparu'r gwasanaeth ymgysylltu â thrigolion, sy’n cynnig y cyfle i drigolion fynychu sesiynau galw heibio wythnosol yng Nghapel Noddfa, yn ogystal â chyswllt uniongyrchol ar gyfer unrhyw ymholiadau.
Bydd Warmworks yn gweithio mewn partneriaeth â SERS Energy Soultions Group, arweinydd yn y farchnad yn y DU mewn gwaith insiwleiddio, atgyweirio a chynnal a chadw insiwleiddiad wal allanol. Mae Warmworks wedi gweithio gyda SERS ers 2015 ar amrywiaeth o wahanol gynlluniau.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal gan Warmworks yn y dyfodol agos, pan fydd cartrefi cofrestredig yn gallu cwrdd ag aelodau tîm a gweld y mathau o waith insiwleiddio fydd yn cael eu gosod.
Mae penodi contractwr yn cynrychioli carreg filltir sylweddol yn y prosiect hwn a gellir tawelu meddwl trigolion drwy'r broses gaffael fanwl sydd wedi arwain at y penodiad hwn.
Mae Warmworks wedi cyflawni dros 150,000 o fesurau effeithlonrwydd ynni mewn dros 40,000 o gartrefi ar draws y DU, gan ddarparu'r lefelau uchaf o ansawdd a gofal cwsmeriaid yn gyson. Mae’r gwaith wedi ei achredu’n genedlaethol ac yn unol â'r holl reoliadau diweddaraf.
Byddwn yn cysylltu â thrigolion yn uniongyrchol ynghylch cyfleoedd i gwrdd â’r contractwr a darperir mwy o wybodaeth am ddyddiad cychwyn y gwaith hefyd, yn dilyn trafodaethau rhwng tîm y prosiect a’r contractwr.
Dywedodd Mark Shephard, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
Ychwanegodd Ross Armstrong, Prif Weithredwr Warmworks: “Mae Warmworks yn falch o fod wedi cael eu penodi fel contractwr prosiect wal Caerau, gan adeiladu ar lwyddiant ein gwasanaeth cyswllt trigolion sydd eisoes yn bodoli. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos â thrigolion a theuluoedd i wneud gwahaniaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaus yn y gymuned leol.”