Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Comisiynydd Plant Cymru yn croesawu cyflwyniad strategaeth newydd ar gyfer plant a phobl ifanc

Bu Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, yn ymweld â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, er mwyn cefnogi cyflwyniad ffurfiol Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gyda meddylfryd o ‘dim amdanoch chi, heboch chi’, bu Bwrdd Rhianta Corfforaethol y cyngor yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac ymadawyr gofal sydd â phrofiad o ofal ar draws y fwrdeistref sirol er mwyn cynhyrchu’r ddogfen ar y cyd.

Roedd y dull newydd yma o ymdrin â’r mater yn golygu bod angen i Fforwm Llais Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Rhianta Corfforaethol y cyngor weithio gyda gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol ar draws adrannau’r cyngor i ddatblygu strategaeth sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ar anghenion, dymuniadau a barn ein plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a’u galluogi i fyw bywydau hapus a chyflawn.

Yn greiddiol i’r strategaeth mae addewid a wnaethpwyd gan dros ddeugain o weithwyr proffesiynol, gofalwyr a chwnselwyr sy’n cynrychioli amrywiaeth o wasanaethau cefnogaeth, a nododd eu hymrwymiad personol i blant a phobl ifanc.


Cafodd y digwyddiad cyhoeddi ei hwyluso gan wyth o gynrychiolwyr Fforwm Llais Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, o flaen gynulleidfa o wleidyddion a gweithwyr proffesiynol.

Dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, a fu’n bresennol yn y digwyddiad cyhoeddi: “Braf iawn oedd gweld pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn wirioneddol arwain y digwyddiad hwn, a bod eu barn yn cael ei hystyried o ddifrif. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am y profiadau y bydd pobl ifanc yn eu cael er mwyn parhau i rannu eu barn fel rhan o’r gwaith pwysig yma, ac i glywed hefyd am y strategaeth, a sut y bydd yn parhau i gyflawni ei hymrwymiad i bobl ifanc mewn ffordd sy’n eu cefnogi i brofi eu hawliau.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, oedd hefyd yn bresennol: “Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau plant yng Nghymru, gyda phwyslais ar gadw plant a phobl ifanc yn agos at adref; iddynt allu cynnal cysylltiad gyda’u teulu a’u cymuned.

“Mae ein Siarter Rhianta Corfforaethol yn rhannu'r un egwyddorion, ac yn cyd-fynd yn agos gyda’r strategaeth hon, sydd yn enghraifft wych o Rianta Corfforaethol ymarferol. Mae cyhoeddiad y strategaeth hon heddiw, yn arddangos bod rhianta corfforaethol yn flaenoriaeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru. Hoffwn longyfarch yr holl bobl ifanc a fu’n rhan o gynhyrchu’r darn o waith pwysig yma."

Mae gan blant, pobl ifanc ac ymadawyr gofal yr hawl i fod yn ddiogel, i fod yn iach, i ddysgu, ac i gael cynnig ystod eang o gyfleoedd a phrofiadau, yn union fel unrhyw blentyn neu berson ifanc arall.

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae gennym ymrwymiad i weithio ar y cyd gyda phob sefydliad er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau rhianta corfforaethol ac i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc fel eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gofalu amdanynt, ac yn gallu cyrraedd eu potensial llawn ym mha bynnag beth maent yn dewis ei wneud. Gan fod y strategaeth wedi ei chyd-lunio gyda Fforwm Llais Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, rydym wedi sicrhau bod ein plant a phobl ifanc wedi cael eu cynnwys yn llawn wrth benderfynu ar flaenoriaethau, ac wedi cael dweud eu barn ynghylch beth sydd angen ei wella.

Rwyf yn hynod falch bod rhianta corfforaethol yn flaenoriaeth i gymaint o’n partneriaid statudol ac anstatudol o fewn y fwrdeistref sirol. Fel cyngor sir, ni sy’n arwain strategaethau rhianta corfforaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond nid ni yw’r unig bartner all gael effaith bositif ar fywydau ein plant. Mae ein holl bartneriaid wedi ymrwymo i gymryd perchnogaeth o’r strategaeth ac i sicrhau bod blaenoriaethau’r strategaeth yn cael eu hadlewyrchu yng nghynlluniau eu sefydliadau hwythau hefyd.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie:

I weld y strategaeth newydd, ewch i wefan y cyngor.

Chwilio A i Y