Cofiwch sicrhau lle eich plentyn mewn ysgol neu ddosbarth meithrin
Poster information
Posted on: Dydd Iau 09 Chwefror 2023
Mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hatgoffa i gyflwyno ceisiadau’n brydlon er mwyn sicrhau lle eu plant yn eu hysgol ddewisol.
Ddydd Mawrth 7 Chwefror, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y Polisi Derbyn i Ysgolion 2024-2025, fel rhan o broses flynyddol. Mae’n ymdrin â phob agwedd ar dderbyniadau ysgol.
Mae hefyd yn cynnwys dyddiadau pwysig ar gyfer rowndiau derbyniadau i ysgolion meithrin, babanod, cynradd ac uwchradd, a dyddiadau cau cyflwyno apeliadau.
Ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf, sy’n dechrau fis Medi 2023, mae gan rieni a gofalwyr tan 24 Mawrth 2023 i wneud cais am leoedd Meithrin llawn amser sy’n dechrau yn yr hydref. Neu, os ydynt yn gwneud cais am leoedd rhan amser sy’n dechrau ym mis Ionawr 2024 neu fis Ebrill 2024, mae ganddynt tan 31 Awst 2023.
Am le mewn dosbarth Derbyn ym mis Medi, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais wedi’u cwblhau yw dydd Gwener 10 Chwefror 2023.
Bydd canlyniadau ceisiadau am leoedd Meithrin Llawn Amser yn cael eu cyhoeddi ar 15 Mai 2023, a cheisiadau am leoedd Meithrin Rhan Amser yn cael eu rhannu erbyn 31 Hydref 2023. Bydd canlyniad eich cais am le mewn Dosbarth Derbyn ar gyfer eich plentyn yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun 17 Ebrill 2023.
Yn ogystal â chwblhau ffurflenni papur traddodiadol, gall trigolion hefyd wneud cais ar-lein drwy wasanaeth Fy Nghyfrif y cyngor.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle i atgoffa rhieni a gofalwyr bod angen gwneud cais am leoedd mewn ysgolion - nid yw’r pontio o un ysgol i’r llall yn digwydd yn awtomatig – ac mae’n hanfodol cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau.
Yn ogystal â hynny, os yw rhieni’n ystyried symud tŷ, rhaid iddynt gysylltu â’n gwasanaethau addysg cyn gynted â phosibl, a gofyn am gyngor ar newid ysgolion, os bydd hynny’n rhan o’r symud.
Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg: