Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cofio D-Day ledled y Fwrdeistref Sirol

Mae digwyddiadau wedi’u trefnu ar hyd a lled y fwrdeistref sirol i nodi 6 Mehefin 2024, sef 80 mlynedd ers D-Day, yr ymosodiad morol mwyaf mewn hanes. ‘Ymgyrch Overlord’ oedd enw cod yr ymosodiad, pryd glaniodd mwy na 150,000 o filwyr y Cynghreiriaid ar bum traeth yn Normandi trwy ddefnyddio llongau a badau glanio, gan osod y sylfeini ar gyfer gorchfygu’r Almaen yn yr Ail Ryfel Byd.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn codi ei faner y lluoedd arfog i gydnabod D-Day; mae Cynghorau Tref Maesteg, Porthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Chyngor Cymuned Llangrallo Isaf, ar y cyd â Gwesty Coed-y-Mwstwr, wedi trefnu digwyddiadau i gofio’r achlysur, gan amrywio o wasanaethau cofio i barêd coffa. Nodir y manylion isod:

  • Senotaff Maesteg, dydd Iau, 6 Mehefin, 11am – gwasanaeth cofio byr.
  • Eglwys Sant Mihangel, Maesteg, dydd Iau, 6 Mehefin, 7.30pm – gwasanaeth cofio.
  • Parêd coffa D-Day trwy Borthcawl, dydd Sadwrn, 8 Mehefin, 11am (dewch i Cosy Corner am 10.30am), ac yna gwasanaeth coffa byr yn Eglwys yr Holl Saint.
  • ‘80 o Ffaglau’ D-Day, dydd Iau, 6 Mehefin, 8pm yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr, gyda lluniaeth ar gael i’w brynu.
  • Senotaff Pen-y-bont ar Ogwr, dydd Iau, 6 Mehefin, 11am – bydd Maer Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn gosod torch.

Bydd Cymdeithas Cyn-filwyr y Pîl a Mynydd Cynffig hefyd yn goleuo ‘lamp heddwch’ yn Lleng Brydeinig Frenhinol y Pîl ddydd Iau, 6 Mehefin o 8.30pm, gyda cherdd yn cael ei darllen a’r lamp yn cael ei goleuo am 9.15pm. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn a allai fod ar y gweill mewn canghennau lleol eraill o’r Lleng Brydeinig Frenhinol, cymerwch gipolwg ar y wefan.

Mae treftadaeth y fwrdeistref sirol yn llawn o hanes yr Ail Ryfel Byd, er enghraifft Island Farn, cyn-wersyll i garcharorion rhyfel, a Stormy Down, maes awyr adeg y rhyfel, heb anghofio dau o gyn-filwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, sef Henry Corless ac Eric Barley, a ddyfarnwyd â’r Legion d’honneur – sef ‘anrhydedd uchaf Ffrainc’ am eu rôl yn D-Day.

Rydym yn eithriadol o falch o’n treftadaeth sy’n deillio o adeg y rhyfel, ac mae’n hynod bwysig cydnabod a chofio aberthau ac ymdrechion dewr ac anhunanol y rhai a gymerodd ran yn yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r gwahanol ddigwyddiadau a drefnwyd i gofio D-Day yn arwydd o’r ffaith bod y dynion a’r menywod a gymerodd ran yn y rhyfel yn dal i gael eu hanrhydeddu’n fawr gan drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Fel awdurdod, rydym yn parchu holl filwyr presennol, yn ddynion a merched, milwyr wrth gefn a chyn-filwyr y fwrdeistref sirol, a gwnawn ein gorau i’w cefnogi trwy Gyfamod ein Lluoedd Arfog.

Rydym wedi ennill Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, gan ddangos ein hymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog trwy gynnig absenoldeb i filwyr wrth gefn sy’n gwasanaethu a thrwy roi’r cynllun gwarantu cyfweliad ar waith, i enwi dwy enghraifft yn unig.

Gobeithiwn y caiff pawb gyfle i fynychu un o’r digwyddiadau a drefnwyd i ddangos eu parch.

Carys Lord, Prif Swyddog Cyllid, Tai a Newid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y