Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Codiadau mewn costau tanwydd yn arwain at gostau tacsi uwch

Mae codiadau mewn costau tanwydd, a'r argyfwng costau byw, wedi arwain at godiad mewn costau teithio tacsi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf mewn tair blynedd.

Yn dilyn cais ffurfiol gan Gymdeithas Hacni Sir Pen-y-bont ar Ogwr, cytunodd aelodau'r Cabinet yn ddiweddar y gall y 'pris cychwynnol' ar gyfer yr hanner milltir cyntaf godi i 70c.

Gwnaethant hefyd gymeradwyo cais i godi cyfradd y mesurydd 2c am bob degfed o filltir, a chodi amseroedd aros o £15 i £20 yr awr.

Dywedwyd wrth y Cabinet bod nifer y cerbydau tacsi trwyddedig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi disgyn o 510 i 439 ers dechrau'r pandemig.

Wrth wneud cais i godi'r costau, dywedodd Paul Pride, cadeirydd Cymdeithas Hacni Sir Pen-y-bont ar Ogwr: “Y tro diwethaf y codwyd prisiau teithio oedd 14 Ionawr 2019. Ers hynny, mae'r busnes wedi teimlo'r difrod economaidd a achoswyd yn sgil y pandemig.

"Mae costau tanwydd ar eu huchaf erioed, ac mae hynny wedi arwain at gost wythnosol rhwng £30 a £60, ac erbyn hyn, mae'r wlad yn wynebu argyfwng costau byw na welwyd erioed o'r blaen.

"Mae sawl cyngor yn ne Cymru eisoes wedi codi prisiau heb oedi i helpu gyrwyr tacsis i wynebu'r argyfwng ariannol, ac rydym yn gofyn i'r cyngor weithio mor gyflym â phosibl a chymeradwyo'r cais brys hwn."

Bydd y codiadau arfaethedig yn cael eu hysbysebu, gyda'r bwriad o'u rhoi ar waith ar 26 Medi.

Mae pob un ohonom yn teimlo straen yr argyfwng costau byw ym mhob cwr o'r DU, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y costau sy'n gysylltiedig â rhedeg tacsi. Mae'n rhaid i ni, fel cyngor, sicrhau y gellir cynnal cydbwysedd sy'n deg i'n gyrwyr tacsis, ond nad yw'n atal y cyhoedd rhag defnyddio'r cerbydau trwyddedig, a dan yr amgylchiadau presennol, mae'r cais hwn yn hollol ddealladwy a phriodol.

Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol.

Chwilio A i Y