Chi piau’r dewis – amrywiaeth o weithgareddau ar gael i bawb o bob oed yr haf hwn
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2024
Gall plant a phobl ifanc ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr edrych ymlaen at raglen gyffrous o weithgareddau a digwyddiadau yr haf hwn.
Mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Halo Leisure, Yr Urdd, Menter Bro Ogwr, Playworks a chynghorau tref a chymuned, mae yna lu o weithgareddau ar gael i blant a phobl ifanc, yn cynnwys chwaraeon, gemau, celfyddydau, a gweithgareddau a digwyddiadau creadigol.
Bydd y cynlluniau gwyliau poblogaidd ‘Actif am Oes’, a gefnogir gan gynghorau tref a chymuned, yn dychwelyd drachefn i leoliadau cymunedol ledled y fwrdeistref sirol, yn cynnwys Canolfan Fywyd Betws, Canolfan Chwaraeon Bracla (Yr Archesgob McGrath), Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr, Canolfan Fywyd Cwm Garw, Canolfan Chwaraeon Maesteg, Canolfan Fywyd Cwm Ogwr, Ysgol Gyfun Pen-coed, a Phorthcawl (Ysgol Gynradd West Park). Hefyd, mae’r sefydliad nid-er-elw, Playworks, yn cefnogi cynllun yng Nghapel Noddfa, Caerau.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ‘Actif am Oes’, rhaid i’r plant fod rhwng 8-11 oed. Ni fwriedir i’r sesiynau fod yn ddewis amgen i ofal plant. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 2pm. Byddant yn cynnwys cymysgedd hwyliog o chwaraeon, gemau a gweithgareddau creadigol a chelfyddydol/seiliedig ar grefftau. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan y cyngor.
Ymhellach, caiff pobl ifanc eu hannog i gymryd rhan yn ‘Her Ddarllen yr Haf’ eleni, a gynhelir mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Y thema yw ‘Crefftwyr Campus’ a’r nod yw tanio dychymyg plant, rhyddhau eu creadigrwydd a rhoi rhwydd hynt i’w straeon trwy gyfrwng darllen. Yn ychwanegol at hyn, bydd gweithdai rhyngweithiol yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd lleol. Cymerwch gipolwg ar wefan Awen i gael rhagor o wybodaeth.
Mae gan Halo Leisure lawer o bethau i’w cynnig. Un o’r pethau hyn yw menter nofio am ddim, sy’n cynnwys cyrsiau carlam i ddechreuwyr a gwersi gwella strociau i blant dan 16 oed.
Yn ystod gwyliau’r haf, gall plant a phobl ifanc 12-17 oed fwynhau mynediad diderfyn i holl ganolfannau Halo trwy brynu tocyn haf ‘Teen Fit Hit’ am £40. Bydd deiliaid y tocynnau hyn yn gallu defnyddio’r gampfa, nofio, ymuno â dosbarthiadau ymarfer corff, a mwy.
Mae’r tocynnau hyn ar werth yn awr am bris sefydlog, felly dim ond £40 fydd y pris ni waeth pryd y cofrestrwch ym mis Gorffennaf. Maent ar gael yn eich canolfan Halo leol neu dros y ffôn (nid ydynt ar gael ar-lein). I gael rhagor o wybodaeth am y Tocyn Haf ‘Teen Fit Hit’, cymerwch gipolwg ar wefan Halo.
Bydd Menter Bro Ogwr yn cynnal Cynlluniau Chwarae Iaith Gymraeg drwy gydol yr haf yn Ysgol Gynradd Gymraeg y Ferch o’r Sgêr, Ysgol Cynwyd Sant, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ac Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd. I gael rhagor o fanylion, cymerwch gipolwg ar dudalen Digwyddiadau Facebook Menter Bro Ogwr.
Ymhellach, mae gan yr Urdd amserlen eithriadol o lawn ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae’r sesiynau’n cynnwys gymnasteg a gwersylloedd ‘aml-chwaraeon’. I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu lle, cymerwch gipolwg ar ein gwefan.
Medd y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant: “Gwych yw gweld bod cynifer o sefydliadau lleol yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i gynnig rhaglen gyffrous o weithgareddau i bobl ifanc yr haf hwn.
“Mae gweithgareddau dros wyliau’r haf yn hollbwysig o ran diogelu a gwella llesiant plant ledled y fwrdeistref sirol a buaswn yn annog pob teulu i gymryd cipolwg ar yr arlwy.”