Celf ar y stryd yn dal i syfrdanu preswylwyr lleol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 30 Awst 2023
Fel rhan o fenter ‘Strydoedd Mwy Diogel’ ar y cyd rhwng y cyngor a Heddlu De Cymru i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a theimladau cyffredinol am ddiogelwch, mae Another Day Another Spray a Thew Creative yn parhau i ddangos eu doniau creadigol - a hynny drwy baentio rhagor o gel far y stryd ym Mracla, Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg.
Mae gwaith celf lliwgar i’w weld ar waliau’r isffordd ar Ffordd Bracla, yn cyfleu themâu natur a bywyd gwyllt, yn ogystal â bwystfilod a thylwyth teg Cymreig.
Mae’r gwaith yn dilyn gwaith celf diweddar a baentiwyd ar orsaf fysus Maesteg - gan drawsnewid man arferol, a’i droi yn rhyfeddol. Mae’r delweddau’n cyfleu hanes cyfoethog y dref, gan gynnwys glöwr, a symbolau o’r traddodiad Mari Lwyd - arferiad Nos Galan canrifoedd oed sy’n parhau yn Llangynwyd, un o’r unig leoedd yn Ne Cymru sy’n dal i gynnal y traddodiad.
Dywedodd Ryan Davies, o Another Day Another Spray: “Mae pob cymuned yn wahanol, gyda hanes a nodweddion gwahanol. Mae’r rhain yn bwysig wrth feddwl am syniadau cychwynnol. Weithiau, rydyn ni’n dewis rhywbeth fydd yn dod â lliw i’r ardal, wrth geisio cynnwys elfen leol - gallai hynny gynnwys logo tîm chwaraeon neu ysgol.”
Nod y prosiectau celf ar y stryd, sydd wedi’u hariannu gan grant ‘Strydoedd Mwy Diogel’ y Swyddfa Gartref, yw disodli graffiti sarhaus a chasineb gyda delweddau croesawgar a phositif, sy’n adlewyrchu natur gyfeillgar y gymuned.
Mewn ymateb i’r gwaith celf yn yr orsaf fysus, dywedodd Hayley Phipps, sy’n byw ym Maesteg: “Mae’r gwaith celf yn anhygoel. Does dim dwywaith ei fod yn gwella’r lleoliad, ac yn creu teimladau positif am yr ardal. Mae’n dod â gwen i wynebau yma.”
Parhaodd Ryan: “Yn bendant, mae’n deimlad gwych gweld a chlywed ymateb y cyhoedd, yn enwedig gan fod y gwaith celf yn newid o fod yn frasluniau i fod yn ddarn gorffenedig ar y wal - rydym wrth ein bodd yn gweld mwynhad a syndod y cyhoedd wrth i’r gwaith celf gael ei orffen.
“Pleser yw gallu sgwrsio â phobl leol wrth greu’r gwaith celf a chlywed eu hymatebion calonogol. Weithiau, ni fyddwn yn sylwi ar yr effaith bositif ar gymunedau nes inni siarad gyda’r cyhoedd a gweld y cyfryngau cymdeithasol - yn aml, mae’r ymateb yn ein synnu, mae’n brofiad hyfryd a gwerthfawr.”
Nod y prosiectau celf ar y stryd ledled y fwrdeistref sirol yw gwella’n weledol y mannau mae pobl yn byw, gweithio ac yn ymweld â nhw, yn ogystal â gwella teimladau o ddiogelwch preswylwyr mewn mannau cyhoeddus.
Mae gwaith Another Day Another Spray a Thew Creative wedi bod yn bwnc llosg ledled ein cymunedau lleol, ac mae’n wych gweld sut mae’r gwaith celf wedi cael effaith bositif arnynt. Rydym yn falch iawn o effaith y prosiectau hyn!
Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol