Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ceisiadau ar agor ar gyfer Cronfa Cychwyn Busnes Pen-y-bont ar Ogwr

Gall busnesau bach newydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nawr wneud cais am gefnogaeth o'r Gronfa Cychwyn Busnes, sy'n cynnig grantiau o rhwng £250 a £4,000 i gynorthwyo gyda llawer o gostau hanfodol rhedeg busnes.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac UK Steel Enterprise yn darparu'r cynllun mewn partneriaeth er mwyn darparu cymorth ariannol i fusnesau newydd a busnesau micro sydd wedi'u lleoli, neu â'r bwriad o leoli, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r fenter yn darparu arian grant i gwrdd â chostau megis offer cyfalaf, datblygu gwefan, gwaith adeiladu i eiddo'r busnes ac offer cyfrifiadur. Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid i fusnesau fod o fewn eu tair blynedd gyntaf yn masnachu, bod â llai na deg o gyflogedigion a bod â throsiant o lai na £2 miliwn.

Gallai'r grant ddarparu hyd at 50% o gostau prosiectau cymwys. Y grant lleiaf yw £250 a'r grant mwyaf ar gael yw £4,000. Felly cost uchaf y prosiect yw £8,000 (ac eithrio TAW).

Bydd y ffenestr ymgeisio ar gyfer y grant yn cau ddydd Llun 8 Gorffennaf 2024, neu cyn hynny, os yw’r arian yn cael ei ddyrannu. Noder, ni fydd y cyngor yn ystyried mwy na phum eitem fesul cais.

Ewch i wefan y cyngor am ragor o wybodaeth ynghylch paratoi am y broses ymgeisio.

Chwilio A i Y