Cefnogaeth i wasanaethau bws masnachol yn 2024-25
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 09 Chwefror 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd cyllid Grant Rhwydwaith Bysiau ar gyfer 2024-25 yn ddigon i dalu am wasanaethau bysiau masnachol a dendrwyd yn ddiweddar, na fyddent o bosibl wedi gallu parhau ar ôl 31ain o Fawrth hebddo.
Mae’r Grant Rhwydwaith Bysiau, sy’n disodli’r Gronfa Pontio Bysiau, yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi gwasanaethau bysiau masnachol ledled y wlad.
Wrth siarad mewn cyfarfod diweddar o'r Cyngor, cyhoeddodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, fod y cyllid yn cynnwys gwasanaethau bws trawsffiniol yn ogystal â chyfraniad sylweddol tuag at wasanaeth tendro presennol.
Dywedodd y Cynghorydd Spanswick: “O ganlyniad i’r cyllid Grant Rhwydwaith Bysiau newydd, bydd y mwyafrif o lwybrau ac amserlenni ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn aros yr un fath ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan fod y tendrau ar sail ‘tebyg am debyg’.
“Mae un newid amlwg gyda Gwasanaeth Rhif 63 – llwybr Porthcawl i Donysguboriau – a fydd yn dychwelyd yn ôl i ddau wasanaeth ar wahân, sef y Rhif 63 (Pen-y-bont ar Ogwr i Borthcawl), a’r Rhif 64 (Pen-y-bont ar Ogwr i Donysguboriau).
“Tra bod yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau wedi cyfarwyddo First Cymru i wneud mân newidiadau i amseroedd teithio i hybu perfformiad Gwasanaeth Rhif 63 (Porthcawl i Donysguboriau), bydd yr amlder yn dal i fod bob 20 munud i Borthcawl ac oddi yno.
“Bydd amserlen dydd Sul ar gyfer gwasanaeth 63 (Pen-y-bont ar Ogwr i Borthcawl) hefyd yn cadw ei amlder fesul awr, ond bydd yn gadael Porthcawl bum munud yn hwyrach nag y mae ar hyn o bryd.
“Bydd yr amlder fesul awr yn parhau yn ei le ar gyfer Gwasanaeth Rhif 64 (Pen-y-bont ar Ogwr i Donysguboriau),gyda mân newidiadau i’r amseroedd gadael o Ben-y-bont ar Ogwr ac o Donysguboriau.
“Yn ogystal, bydd mân newidiadau i amserlenni rhai gwasanaethau er mwyn gwella perfformiad amser. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau tendro 70/71 (Pen-y-bont ar Ogwr i'r Cymer trwy Faesteg), y 72 (Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw), y 73 (Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw drwy'r Betws), a'r 74 (Pen-y-bont ar Ogwr i Nantymoel).
“Bydd hefyd yn cynnwys gwasanaeth masnachol rhif 76 (Pen-y-bont ar Ogwr i’r Betws).
“Mae First Cymru wedi ein hysbysu bod y newidiadau hyn yn cael eu cofrestru ar hyn o bryd, ac y bydd yr amserlenni diwygiedig yn eu lle ar gyfer y 1af o Ebrill, 2024.”