Canolfannau Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar fin agor mewn cymunedau lleol
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 06 Ionawr 2023
Mae cymunedau lleol yn elwa o gyllid gan y cyngor i uwchraddio cyfleusterau mewn lleoliadau ar draws y fwrdeistref sirol. O ganlyniad, bydd Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu sefydlu canolfannau cymunedol yn y lleoliadau hyn, gan ganiatáu i fwy o breswylwyr o’r tu allan i’r prif ardaloedd canol tref i ddefnyddio eu gwasanaethau.
Bwriad y rhaglen gyflogadwyedd yw helpu’r rhai sy’n 16 oed a hŷn sy’n ddi-waith, ac sy’n chwilio am fwy o oriau, neu ail swydd neu swydd newydd. Mae’r rhaglen yn cynnig cymwysterau galwedigaethol, cyfleoedd gwirfoddoli, yn ogystal â chynnig cyfle i ddatblygu sgiliau personol.
Mae ‘Cronfa Cyrraedd Cymunedau Gwledig sy’n Ffyniannus’ wedi caniatáu i Ganolfan Cymuned Heol-y-Cyw osod band eang a phrynu cyfrifiaduron newydd, gan ddarparu cefnogaeth ddigidol i’r bobl leol. Mae sesiynau ‘galw heibio’ newydd yng Nghanolfan Cymuned Westward yng Nghefn Glas, yn ogystal â chynlluniau ychwanegol ar gyfer Llyfrgell Pencoed, fydd yn cau ar gyfer gwaith adnewyddu cyffrous eleni - yn y cyfamser, bydd y tîm Cyflogadwyedd wedi’u lleoli yn Neuadd Llesiant y Glowyr Pencoed.
Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, sydd eisoes yn cynnig cefnogaeth mewn 20 lleoliad ar draws y fwrdeistref sirol, wedi ymrwymo i gyrraedd mwy o gymunedau lleol dros y misoedd nesaf.
Yn ogystal â’r canolfannau cymunedol, mae’r tîm Cyflogadwyedd yn ehangu i greu cysylltiadau ag ysgolion hefyd, gan ddarparu cefnogaeth i rieni ar bynciau a allai fod o fudd iddynt. Er enghraifft, ym mis Ionawr mae sesiwn flasu ar gyfer Cymorth Cyntaf i Blant wedi’i threfnu yn Ysgol Gynradd Bracla, ac mae modd archebu lle drwy’r ysgol.
Mae hwn yn amser cyffrous iawn ar gyfer Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr. Mae cefnogaeth a chyngor gwerthfawr wedi bod ar gael bob amser i unigolion ar draws y fwrdeistref sirol, ac mae ehangu ein gwasanaeth wyneb yn wyneb i fwy o gymunedau, yn golygu y gall hyd yn oed mwy o unigolion elwa o beth sydd gan y rhaglen i’w gynnig o bosibl.
Rwyf hefyd wedi cael fy nghalonogi’n fawr gan y ffaith bod y tîm Cyflogadwyedd yn cysylltu ag ysgolion i hysbysu rhieni am ystod o bynciau perthnasol, bydd hyn, o ganlyniad, yn cael effaith gadarnhaol ar y genhedlaeth iau.
Mae rhoi sgiliau a gwybodaeth i unigolion yn golygu eu grymuso. Dim ond gwella ffyniant ein bwrdeistref sirol y gall hyn – sef bwriad sydd wrth wraidd gwaith Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.
Cynghorydd Neelo Farr, Aelod y Cabinet dros Adfywio