Canolfan Gymunedol y Felin-wyllt yn serennu wrth ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 04 Medi 2024
Roedd Canolfan Gymunedol y Felin-wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr, yn fwrlwm o weithgarwch ar 12 Awst i nodi Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid - digwyddiad a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2000 i ddathlu rhinweddau pobl ifanc, cydnabod yr heriau a all fod yn eu hwynebu, yn ogystal ag annog eu cyfranogiad i greu dyfodol gwell.
Yn gydweithrediad rhwng Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, roedd yr achlysur yn cynnig ystod o weithgareddau, gan gynnwys pêl-droed, celf, beicio BMX a gweithdai DJ a ddarparwyd gan Materion Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a Youthworks.
Dywedodd Matthew Rowlands, Gweithiwr Prosiect Cymunedol ac Ieuenctid gyda Materion Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr: “Cawsom ddiwrnod anhygoel yng Nghanolfan Gymunedol y Felin-wyllt ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid! Braf iawn oedd cael darparu gweithgareddau gwych i ieuenctid y Felin-wyllt, gan gynnwys heriau pêl-droed, gwylltgrefft, gweithdai DJ, ag enwi dim ond rhai - roedd pawb yn amlwg wedi mwynhau! Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â chymaint o sefydliadau, staff a gwirfoddolwyr o’r un anian.”
Dywedodd un o’r trigolion 12 oed: “Wnes i fwynhau’r diwrnod yn y ganolfan gymunedol yn arw. Roedd cymaint o weithgareddau i roi cynnig arnyn nhw - y trac a’r beiciau BMX oedd fy ffefryn! Roedd y gweithwyr ieuenctid yn llawn hwyl hefyd a chawsom ddigonedd o wybodaeth a nwyddau am ddim i fynd adref gyda ni.”
Wedi’i ariannu gan grant Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru, gwnaeth y dathliad hefyd alluogi’r Tîm Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia, y Tîm Addysg a Gorfodaeth Strydoedd Glanach, yn ogystal â thîm Tai Cymoedd i’r Arfordir, i godi ymwybyddiaeth o’r materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, cam-drin domestig a phroblemau baw ci. Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Am gyfle gwych i ddod â’r gymuned ynghyd i gydnabod cyfraniadau, dyheadau a photensial ein pobl ifanc, yn ogystal â’r heriau maen nhw’n eu profi, gan eu hannog i leisio eu barn a gweithredu mewn rolau actif yn eu cymunedau ar yr un pryd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai : “Roedd digwyddiad Canolfan Gymunedol y Felin-wyllt yn llwyddiannus, gyda llawer o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiadau a oedd ar gael ac i weld yn mwynhau! O’r dechrau i’r diwedd, roedd y dathliad yn gynhwysol ac yn cynnig croeso cynnes i bawb.
“Diolch i bawb a oedd yn rhan o drefnu’r achlysur hwn ar gyfer ein pobl ifanc leol - rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf!”