Canolfan Fywyd Halo Cwm Ogwr yn dathlu 30 mlynedd!
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 19 Mai 2023
Yn llythrennol, mae Canolfan Fywyd Cwm Ogwr yn guriad calon y gymuned, ac ers 30 mlynedd mae wedi bod yn rhan annatod o fywydau’r rhai sy’n byw yn y gymuned honno.
Mae’r Ganolfan wedi cyflawni cymaint, gan adlewyrchu ymrwymiad y staff i’r trigolion lleol. Llwyddodd y Ganolfan i ennill gwobr ‘Canolfan Halo y Flwyddyn ar gyfer 2022’, a hefyd cyflwynwyd Scott Hancock, y Rheolwr Cyffredinol, a Betty Kerry, gwirfoddolwraig uchel ei pharch, â gwobrau unigol yn y seremoni ar sail eu hymdrechion.
Gall y ganolfan ddarparu ar gyfer pawb. Yma, mae un o’r mamau’n esbonio sut y mae pob un o’i thri phlentyn yn elwa ar y Ganolfan Fywyd: “Mae fy mhlentyn hynaf yn defnyddio’r gampfa, mae fy mhlentyn ieuengaf yn mwynhau’r sesiynau Bownsio a Chwarae ac mae fy mhlentyn canol yn gwneud yn fawr o’r sesiynau niwroamrywiol er mwyn archwilio gweithgareddau corfforol mewn lle diogel, heb feirniadaeth.”
Yn ôl Kathleen O’Callaghan, un o wirfoddolwyr y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ar gyfer Cwm Ogwr: “Mae cael cefnogaeth y grŵp yma yn y ganolfan yn rhoi tawelwch meddwl i’r plant, ac i’r rhieni hefyd – mae cyngor a chymorth hygyrch ar gael yma.”
Medd Scott Hancock: “Ers imi ddod yn Rheolwr Cyffredinol ym mis Medi 2020, rydym wedi parhau i ddatblygu’r cysylltiadau a grëwyd gydag elusennau lleol, yn cynnwys Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Ogwr, Balchder Ogwr a grŵp Ymwybyddiaeth Hunanladdiad Cwm Ogwr (OVSA). Mae pob un ohonom yn ymdrechu ac yn llwyddo i wneud Cwm Ogwr yn lle gwell i fyw ynddo – gyda chymorth diddiwedd gan Gyngor Cymuned Cwm Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”
Rydw i’n aelod balch o’r gymuned ac rydw i’n awyddus i dynnu sylw at ymdrechion y staff, yn ogystal â’r effaith gadarnhaol a gaiff y ganolfan ar fywydau pobl sy’n byw yng Nghwm Ogwr.
Mae’n lle twymgalon a chroesawgar. Mae rhyw egni yn perthyn iddo, ac mae hynny’n gwneud i bobl eisiau dychwelyd yno dro ar ôl tro – a does neb cystal â Betty am wneud dishgled o de!
Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol