Canmoliaeth ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd y Drenewydd am eu hymagwedd gadarnhaol tuag at ddysgu!
Poster information
Posted on: Dydd Iau 05 Hydref 2023
Mewn arolygiad Estyn a gyflawnwyd ym mis Chwefror eleni, derbyniodd Ysgol Gynradd y Drenewydd ym Mhorthcawl gydnabyddiaeth am amryw gryfderau, gan gynnwys ymagwedd frwdfrydig ei disgyblion tuag at ddysgu.
Nododd yr arolygwyr fod y dysgwyr yn derbyn profiadau dysgu amrywiol a chyfoethog sy’n eu hysgogi a’u hymgysylltu, gan nodi hefyd bod amgylchedd yr ysgol yn annog disgyblion i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, hyderus ac annibynnol.
Yn ôl yr adroddiad Estyn, roedd y ddarpariaeth ar gyfer ‘Prifysgol y Drenewydd’ yn gryfder penodol ar gyfer yr ysgol - sef ei menter gyfoethog sy’n cynnig cyfleoedd i ddisgyblion o flynyddoedd gwahanol gymryd rhan mewn rhaglen o weithgareddau nad ydynt fel arfer yn rhan o’r gwersi. Yn ychwanegol, mae'r gymuned gynhwysol a gofalgar a amlygir yn yr adroddiad yn sicrhau bod staff, disgyblion, a’u teuluoedd, yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.
Dywedodd y pennaeth, Rachel John, a gydnabuwyd am ei harweinyddiaeth bwrpasol yn yr ysgol: “Rwy’n hynod falch bod Ysgol Gynradd y Drenewydd wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei hymdrechion a chyflawniad rhagorol. Mae'r arolygiad yn wirioneddol adlewyrchu naws cymuned yr ysgol ac yn tystio i waith caled ac ymrwymiad ein disgyblion a’n staff.
Un agwedd a amlygwyd o fewn yr adroddiad oedd ymddygiad rhagorol ein disgyblion. Mae ein disgyblion yn gyson yn ymddwyn yn gwrtais, gan fod yn ystyriol ac yn ofalgar tuag at eraill. Mae hyn yn brawf o effeithiolrwydd yr ethos a’r gwerthoedd a hyrwyddir yma yn Ysgol Gynradd y Drenewydd.
Yn yr adroddiad, rhoddwyd canmoliaeth i’n tîm o staff ymrwymedig am ddarparu profiadau dysgu rhagorol sy’n ymgysylltu â diddordebau ein disgyblion. Mae ein staff wedi ymrwymo i greu amgylchedd dysgu positif a diddorol, lle gall ein disgyblion deimlo’n gyffrous parthed eu haddysg.
Wrth symud ymlaen, byddwn fel ysgol yn parhau i ddatblygu ar y llwyddiant hwn, gan geisio’n gyson i ysgogi ein disgyblion i gyflawni eu llawn botensial. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd addysg gynhwysfawr, a byddwn yn parhau i gynnig ystod eang o gyfleoedd i’n disgyblion archwilio a datblygu eu doniau.
Waw! Am adroddiad arolygiad arbennig! Dysgwyr brwdfrydig sy’n dysu mewn ffordd llesol, sy’n ffynnu’n addysgiadol - dyna beth yw pwrpas addysg. Felly llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gynradd y Drenewydd! Braf iawn fydd gweld sut fydd yr ysgol yn parhau i ddatblygu.
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg