Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Canmol Ysgol Gynradd y Pîl yn adroddiad diweddaraf Estyn

Mae staff a disgyblion Ysgol Gynradd y Pîl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael adroddiad cadarnhaol gan Estyn, sef y corff arolygu ysgolion.

Canfu'r adolygwyr bod athrawon yn cynnig ystod o brofiadau dysgu a oedd yn ennyn diddordeb disgyblion ac yn eu cymell nhw i lwyddo. Gwnaethant hefyd nodi bod yr holl ddisgyblion yn "falch" o'u hysgol.

Cafodd y tîm arwain eu canmol am eu cyfeiriad strategol cadarn ac am annog cydweithrediad ymysg staff, gan feithrin arbenigedd proffesiynol ac atgyfnerthu cysylltiadau â rhieni'n llwyddiannus.

Mae darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu sgiliau craidd disgyblion, gan gynnwys defnyddio’r iaith Gymraeg, yn gryfder amlwg arall. Mae pob disgybl, mwy neu lai, yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg llafar, ac yn dangos eu bod yn mwynhau dysgu'r iaith.

Nododd yr arolygwyr hefyd dri maes i'w gwella yn yr adroddiad. Argymhellwyd cryfhau gweithdrefnau monitro er mwyn canolbwyntio'n benodol ar effaith addysgu, gwella cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau creadigol yn gynyddol a mireinio'r addysg er mwyn galluogi disgyblion i fod yn fwy annibynnol o ran beth maent yn ei ddysgu, a sut.

Mae'r ysgol bellach wedi llunio cynllun gweithredu ôl-arolwg er mwyn dangos sut byddai'n mynd i'r afael â'r argymhellion hynny.

Mae'n amlwg o'r adroddiad hwn bod gan staff, disgyblion a llywodraethwyr Ysgol Gynradd y Pîl ddigonedd i fod yn falch ohono.

Mae'n arbennig o galonogol darllen am yr holl nodweddion cadarnhaol a nodwyd gan Estyn, gan gynnwys y safonau uchel a chynyddol, defnydd o'r iaith Gymraeg a'r arweinyddiaeth strategol gadarn.

Mae gen i bob hyder y bydd yr ysgol yn llwyddo i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn ac y bydd y canlyniadau i ddisgyblion, sydd eisoes yn dda iawn, yn parhau i wella yn Ysgol Gynradd Pîl.

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:

Chwilio A i Y