Canmol tîm cynnal a chadw Tesco am ddatblygu prosiect garddio cymunedol Gwasanaethau Dydd
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 21 Mehefin 2023
Ar y cyd â Baobab Bach, rhwydwaith o bantrïau cymunedol ledled Cymru, mae Gwasanaethau Dydd Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu eu gardd gymunedol yn Nhŷ Pen-y-bont i gyflenwi llysiau ffres i bantrïau lleol.
Mae eu menter werthfawr wedi'i hwyluso gan gymorth diwyro tîm cynnal a chadw Tesco, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r tîm wedi cymhwyso eu sgiliau i ystod o swyddi, gan gynnwys symud sied ardd i’w wneud yn fwy hygyrch, paentio waliau a ffensys i adlewyrchu goleuni yn y twnnel polythen, yn ogystal â gosod ffens ardd newydd.
Dywedodd Nathan Tobin, Technegydd Cynnal a Chadw yn yr archfarchnad: “Un o fentrau Tesco yw ‘rhoi’n ôl’ i gymunedau lleol o fewn ei rhaglen cymorth cymunedol. Mae’r tîm wir yn mwynhau helpu pobl yn yr ardal.
“Roedd llawer o waith i'w wneud yn yr ardd gymunedol ar y dechrau, ac rydym wedi gweithio ym mhob tywydd er mwyn sicrhau bod yr ardd yn barod ar gyfer misoedd yr haf.
“Mae’r staff a’r bobl sy’n mynychu’r hwb wedi bod yn hynod groesawgar - mae eu cefnogi nhw wedi bod yn fraint ac yn brofiad gwerth chweil.”
Wrth gydweithio â Sharon Gronland, Swyddog Datblygu Mynediad Cymunedol, i drefnu’r prosiect, dywedodd Scott Pickrell, Rheolwr Cyfleoedd Dydd: “Nid yn aml mae pobl yn cynnig gwasanaeth gwirfoddol y dyddiau hyn, sy’n rhagori ar ddisgwyliadau pawb ym mhob ffordd! Ond dyna’n union mae tîm cynnal a chadw Tesco wedi'i wneud yn Nhŷ Pen-y-bont yn ein prosiect gardd gymunedol.
“Yn ogystal â hynny, mae’r ffaith bod y cymorth wedi'i gynnig fel partneriaeth symbiotig wedi ymgysylltu’r bobl sy’n mynychu’r hwb cymunedol cymaint nes ei fod wedi ysgogi cyffro a mwynhad i bawb, ac mae’r dyfodol yn edrych yn addawol.
“Mawr yw ein dyled i Tesco am yr holl waith caled a'r brwdfrydedd wrth gyflawni’r tasgau tirlunio caled a gwaith cynnal a chadw adeiladol, sydd wedi trawsnewid yr ardd yn Nhŷ Pen-y-bont yn hafan i arddwyr.
“Yn amlwg, rydym yn edrych ymlaen yn arw at gynaeafu’r cynnyrch cyntaf o’r ardd, a fydd yn cael eu defnyddio yn ein ‘sesiynau coginio’ yn Nhŷ Pen-y-bont, yn ogystal â chynnyrch ar gyfer y banciau bwyd a phantrïau lleol.
“Ac mae’r dyfyniad canlynol gan Charles Kingsley yn cipio’n union beth mae Tesco wedi’i roi i bawb a fydd yn ymgymryd â’r prosiect arbennig hwn:
“Mae gennym gae... Efallai bod ein cae yn fychan, ond mae’n gae. Mae’n bosib trin y tir, mae’n bosib cynaeafu, a phwy â ŵyr i lle fydd y gwynt yn chwythu’r hadau pan fo’r cnwd yn barod.’
“Diolch o galon ichi i gyd. Mawr werthfawrogwn.”
Rydym mor ddiolchgar am yr holl gymorth gan dîm cynnal a chadw Tesco. Maent wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn yn eu cymuned wrth helpu i ddatblygu Prosiect Gardd Gymunedol Tŷ Pen-y-bont.
Rwy’n sicr y bydd y fenter hon yn plannu hadau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol - yn cyflenwi bwyd ar gyfer y pantrïau, yn ogystal â’r sesiynau coginio sydd wedi’u cynllunio, ymysg pethau eraill. Rwy’n gobeithio bod tîm cynnal a chadw Tesco yn sylwi faint o gyfleoedd maent wedi’u cynnig i’r bobl sy’n mynychu’r hwb. Heb os, mae effaith caredigrwydd yn ymestyn yn eang, ac efallai na fyddwn ni byth yn gweld y canlyniadau.
Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie