Camau gweithredu diwydiannol arfaethedig ar gyfer ysgolion wedi’u gohirio
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 10 Chwefror 2023
Mae’r streic arfaethedig ar gyfer 14 Chwefror wedi'i gohirio yng ngoleuni cynnig tâl newydd ar gyfer addysgwyr gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r undebau addysg NEU a NAHT wedi cytuno i gyflwyno’r cynnig tâl newydd i’w haelodau a chynrychiolwyr a chynnal pleidlais.
Mae 1.5% ychwanegol, yn ogystal â dyfarniad tâl 5% eleni, ynghyd â thaliad untro 1.5%, wedi’i gynnig i staff addysgu,
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud sawl ymrwymiad i helpu lleihau llwythi gwaith athrawon yn y tymor byr, canolig a hir.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae’r penderfyniad i beidio â pharhau â’r streic yr wythnos nesaf yn newyddion da i ddisgyblion, rhieni, gofalwyr a staff.
“Rydym hefyd yn croesawu bod y NEU a NAHT wedi cytuno i gyflwyno’r cynnig tâl newydd i’w haelodau a chynrychiolwyr.
“Mae’r trafodaethau dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn gynhyrchiol, ac rydym wedi gwneud cynnydd da ar faterion fel lleihau llwyth gwaith staff a chefnogi llesiant. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau adeiladol hyn.”
Dyma newyddion da i bawb dan sylw. Mae’n adlewyrchu camau at y cyfeiriad cywir ar gyfer ein haddysgwyr, yn pwysleisio sut mae Llywodraeth Cymru’n cymryd sylw o’r sefyllfa, ac yn dangos awydd i weithio gyda staff addysgu at gyrraedd trefniant sy’n bodloni pawb.
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg