Camau cychwynnol o'r cynllun ailblannu ar waith ar gyfer Coetir Bryn Bracla
Poster information
Posted on: Dydd Iau 23 Ionawr 2025
Y mis yma, mae cynllun wedi dechrau i hyrwyddo adfywiad naturiol mewn rhannau o Goetir Bryn Bracla, lle cafodd coed ynn heintus eu gwaredu y llynedd.
Bu i'r awdurdod lleol waredu nifer o goed a gafodd eu nodi eu bod yn dioddef o glefyd Gwywiad yr Onnen yng Nghoetir Bryn Bracla, ar hyd cefn Lark Rise a Hazel Tree Way, gyda chynlluniau pellach ar waith i waredu coed a effeithiwyd yn yr ardal gyfagos maes o law.
Gwywiad yr Onnen yw'r clefyd coed mwyaf dinistriol ers clefyd Llwyfen yr Isalmaen a laddodd 60 miliwn o goed llwyfen yn y DU yn ystod dau epidemig yn y 1920au a'r 1970au. Mae coed sydd wedi'u heintio yn gwanhau dros amser, gan beri risg i ddiogelwch, gyda changhennau'r coed yn disgyn ar lwybrau troed, ffyrdd ac eiddo.
Mae'r cynllun ailblannu presennol yn y camau cynnar, gyda'r disgwyl y bydd amlinelliad bras ar gyfer y prosiect yn cael ei gwblhau ym mis Chwefror. Yn dilyn ystyriaeth gychwynnol o'r cynigion, comisiynwyd pensaer tirwedd allanol a fydd yn cynnig cynllun terfynol erbyn mis Mawrth 2025 gyda'r posibilrwydd y gallai'r gwaith ailblannu ddechrau yn nhymor yr hydref 2025, os bydd digon o gyllid ar gael.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd rhan mewn trafodaethau ac yn sefydlu partneriaeth â Chyngor Cymunedol Bracla mewn perthynas â'r mentrau plannu coed yng Nghoetir Bracla ac ardaloedd cyfagos eraill.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymunedol Bracla a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, Eugene Caparros: "Mae Cyngor Cymunedol Bracla yn edrych ymlaen yn eiddgar at weithio gyda'r awdurdod lleol i warchod ein hamgylchedd yn ogystal â gwella mannau gwyrdd fel y gall trigolion lleol a chenedlaethau'r dyfodol eu mwynhau."
Rydym yn awyddus i gydweithio â Chyngor Cymunedol Bracla yn ein hymdrechion adfywio ar hyd ardaloedd o Bracla, yn cynnwys Coetir Bryn Bracla.
Mae'r prosiect penodol hwn yn ymateb cadarnhaol i'r gwaith anochel a gynhaliwyd y llynedd i leihau unrhyw risgiau i bobl neu eiddo yn yr ardal a achoswyd gan glefyd Gwywiad yr Onnen. Rydym hefyd yn ymwybodol y bydd yn angenrheidiol i waredu rhagor o goed heintus yn yr ardal gyfagos yn y dyfodol agos.
Am nawr, fodd bynnag, wrth aros am gyllid digonol, rydym yn edrych ymlaen at dymor yr hydref 2025 pan fydd modd dechrau ar y gwaith o ailblannu.
Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd