Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig newydd

Mae cynlluniau ar gyfer adeiladu Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig newydd yn parhau i ddatblygu, gyda chais cynllunio llawn wedi ei gyflwyno i’w ystyried.

Dan y cynlluniau, byddai’r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar dir lle mae adran iau Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ar hyn o bryd, a byddai’n gweithredu fel un safle, yn dod â phob grŵp blwyddyn ynghyd yn yr un lleoliad. Mae’r ysgol hefyd wedi ei dylunio â nodweddion cynaliadwy, a bydd yr ysgol yn Garbon Sero Net wedi iddi agor.

Yn ogystal â’r dosbarthiadau, mae’r ysgol dau lawr yn cynnwys ardal ddysgu dan do, prif neuadd, neuadd stiwdio ategol, ardaloedd chwarae yn yr awyr agored, a chaeau bob tywydd, a fydd o bosib yn cael eu defnyddio gan grwpiau a sefydliadau cymunedol hefyd. Bydd cyfleusterau beicio ar gael i ddisgyblion a staff, ynghyd â chyfleusterau parcio ar gyfer yr ysgol, sy’n cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan.

Mae cynllun tirwedd sylweddol hefyd wedi’i ymgorffori yn y dyluniad, a bydd rhandiroedd diogel wedi’u lleoli i’r gogledd o’r safle, gan ddarparu 26 rhandir unigol.

Mae cyflwyno’r cais cynllunio yn cynrychioli carreg filltir bwysig ar gyfer y prosiect hwn sydd â’r gymuned wrth ei wraidd, sydd wedi ei ddylunio er budd cenedlaethau o bobl leol am flynyddoedd i ddod.

Hoffwn ddiolch i’r holl athrawon, llywodraethwyr, staff, disgyblion, rhieni/gofalwyr, yn ogystal â’r gymuned leol ehangach am eu cydweithrediad ac am ymgysylltu drwy gydol y prosiect hyd yn hyn, ac mae’n rhoi pleser arbennig bod y disgyblion wedi cael y cyfle i ddweud eu dweud am y cynlluniau.

Mae’r holl ymchwiliadau tir ac archwiliadau diogelwch y ffyrdd angenrheidiol wedi eu cwblhau, ac mae’r sylw i fanylder sydd wedi ei roi i’r prosiect hwn wedi bod yn rhagorol. Mae cynnig cyfleusterau modern o ansawdd dda darparu i’n pobl ifanc a’r gymuned leol yn flaenoriaeth allweddol i ni fel Cyngor, ac mae’n wych gweld bod y prosiect hwn yn parhau i yrru ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid:

Mae’r cynlluniau llawn ar gael i’w gweld ar wefan y cyngor.

Chwilio A i Y