Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Caffi Trwsio Cymru yn dangos sut y gallwn fyw yn fwy cynaliadwy

Gweledigaeth Caffi Trwsio Cymru yw 'cymdeithas sydd wedi'i grymuso i gydweithio i leihau gwastraff, rhannu sgiliau, a chryfhau ein cymunedau'.

Gyda chyfres o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio mewn lleoliadau ar draws y fwrdeistref sirol, mae Caffi Trwsio Cymru yn cynnig hyfforddiant a chyngor i gymunedau lleol, gyda’r nod o greu diwylliant o drwsio ac ailgylchu - gan leihau gwastraff a’r angen am safleoedd tirlenwi.

Mae Caffi Trwsio Cymru, Cwmni Buddiannau Cymunedol, yn helpu i drwsio eitemau’n amrywio o dostwyr i barau o jîns neu ffrogiau.  Bydd y gwirfoddolwyr yn ceisio trwsio unrhyw eitem sydd wedi malu am ddim, ac mae ymwelwyr yn gallu gwylio a dysgu sgiliau perthnasol, neu fwynhau te neu goffi a sgwrs!

Dywedodd Hilary Edwards, Rheolwr Gweithrediadau, Caffi Trwsio Cymru: “Rydym eisoes yn cefnogi pum Caffi Trwsio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn croesawu pobl a allai fod â diddordeb mewn cymryd rhan trwy naill ai wirfoddoli mewn caffi sydd eisoes yn bodoli, neu efallai ddechrau eu caffi eu hunain. Os oes gennych ddiddordeb anfonwch neges i: info@repaircafewales.org

“Gallwn roi gwybodaeth, cefnogaeth a chymorth ymarferol i helpu i sefydlu caffi trwsio newydd - mae’n rhad ac am ddim i ymuno, a byddem yn falch iawn o’ch croesawu. 

“Mae gan ein holl ddigwyddiadau dair thema gyffredin: lleihau gwastraff, rhannu sgiliau a chydlyniant cymunedol.”

Yn y fwrdeistref sirol, mae yna gaffi trwsio yng Nghanolfan Gymunedol Bryncethin, Coleg Penybont, Gogledd Corneli, yn ogystal â Sied Dynion Caerau a’r Hen Lys, ill dau wedi’u lleoli ym Maesteg.

Mae Caffi Trwsio Cymru, sydd â’r nod o ddatblygu sgiliau ymarferol gymaint ag ysbryd cymunedol, yn annog pobl i ddod ynghyd, i gyfathrebu a dysgu gan ei gilydd mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.

Mae’r caffis hefyd yn cynnig ateb i’r argyfwng costau byw trwy helpu pobl i osgoi gorfod prynu eitemau newydd, a thrwy ddysgu a datblygu sgiliau newydd i ailgylchu a thrwsio’r pethau sydd ganddynt yn barod.

Yn ogystal, mae’r caffis yn herio cymdeithas wastraffus ac yn helpu i symud tuag at ffordd gynaliadwy o fyw, trwy alluogi pobl leol i chwarae eu rhan mewn mynd i’r afael â’r pryderon am yr hinsawdd.

Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth am Gaffi Trwsio Cymru, yn cynnwys digwyddiadau.

Chwilio A i Y