Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cadarnhau’r Arweinydd, y Maer a’r Cabinet ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod

Mae cyfarfod blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a gynhaliwyd ddydd Mercher 17 Mai, wedi cadarnhau pwy fydd yn mynd i’r afael â rolau’r Arweinydd, y Maer a’r Cabinet yn ystod 2023-2024.

Yn y cyfarfod, cafodd y Cynghorydd Huw David ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad i’w rôl fel Arweinydd yr awdurdod, a chytunwyd ar swyddi portffolio’r Cabinet fel a ganlyn:

  • Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd - y Cynghorydd Jane Gebbie
  • Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol - y Cynghorydd Hywel Williams
  • Aelod Cabinet dros Addysg - y Cynghorydd Jon-Paul Blundell
  • Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd - y Cynghorydd John Spanswick
  • Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol – y Cynghorydd Neelo Farr
  • Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio - y Cynghorydd Rhys Goode

Bydd y Cynghorydd William Kendall yn olynu’r Cynghorydd Martyn Jones fel Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Y Cynghorydd Heather Griffiths fydd y Dirprwy Faer.

Ellie O’Connell fydd Maer Ieuenctid newydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a Daisy Davies fydd y Dirprwy Faer Ieuenctid.

Cadarnhawyd y grwpiau gwleidyddol ac arweinwyr y grwpiau fel a ganlyn:

  • Llafur – 26 (Y Cynghorydd Huw David)
  • Annibynwyr Sir Pen-y-bont ar Ogwr – 13 (Y Cynghorydd Amanda Williams)
  • Y Gynghrair Ddemocrataidd – 8 (Y Cynghorydd Ross Penhale-Thomas)
  • Y Ceidwadwyr – 1 (ni ellir pennu arweinydd oherwydd rhaid cael dau aelod o leiaf)

Dewisodd tri chynghorydd – sef y Cynghorydd Jeff Tildesley, y Cynghorydd Sean Aspey a’r Cynghorydd Rob Smith – aros yn annibynnol yn hytrach nag ymuno ag unrhyw grŵp.

Mae gwasanaethu fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn fraint ac yn anrhydedd, a hoffwn ddiolch o galon i’r aelodau a mynegi fy mharch tuag atynt.

Wrth gwrs, byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar y rôl a rhoi sylw mawr iddi, yn ogystal â gwneud fy ngorau glas dros y bobl a wasanaethwn. Rydw i’n ddiolchgar hefyd am gefnogaeth barhaus fy nghydweithwyr yn y Cabinet, a hoffwn gydnabod eu hymroddiad a’u hymrwymiad parhaus.

Er mwyn sicrhau y gallwn baratoi’n well ar gyfer wynebu heriau’r flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn cyflwyno sawl newid i dri o bortffolios y Cabinet.

Medd Huw David, Arweinydd y Cyngor:

Medd Huw David, Arweinydd y Cyngor: “Bydd y Cynghorydd Farr yn goruchwylio portffolio Llesiant uwch, a fydd yn cynnwys ysgwyddo cyfrifoldeb dros Dechrau’n Deg, gwasanaethau ieuenctid, adfywio diwylliannol ac ein partneriaeth gyda Halo ac Awen sy’n cynnig gwasanaeth hamdden a gwasanaeth llyfrgell o’r radd flaenaf i drigolion yr ardal.

“Bydd ei phortffolio yn cael ei gydweddu’n agos â’n Cynllun Corfforaethol newydd a’r canolbwynt ar ddatblygu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i ymweld ag ef yn ogystal â byw a gweithio ynddo.

“Mewn mannau eraill, bydd portffolio’r Cynghorydd Goode yn ymestyn er mwyn ymgorffori cynllunio, digartrefedd, ac adfywio tai a chyflogaeth. Bydd hyn yn dwyn ynghyd nifer o feysydd strategol hollbwysig mewn ffordd fwy cydlynol, a cheir cysylltiadau clir â blaenoriaethau a bennwyd yn ein Cynllun Datblygu Lleol.

“Yn olaf, bydd portffolio Cynghorydd Spanswick yn rhoi mwy o sylw a blaenoriaeth i faterion yr agenda werdd, megis targedau carbon sero net, gwastraff ac ailgylchu, mannau gwyrdd, a mynwentydd ac amlosgfeydd.

“Hefyd, bydd y Cynghorydd Spanswick yn goruchwylio ein buddsoddiad parhaus mewn priffyrdd, yn cynnwys ein hymdrechion i ddarparu a gwella cyfleoedd teithio llesol.

“Gyda’r newidiadau hyn ar waith, rydw i’n hyderus y bydd modd i’r Cabinet barhau â’r gwaith da a wnaed yn barod, gan sicrhau y gallwn lywio’r awdurdod trwy’r heriau sydd o’n blaen gyda llaw gadarn.”

Chwilio A i Y