Cabinet yn mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru
Poster information
Posted on: Dydd Iau 16 Mawrth 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru a fydd yn cynnig mwy o gymorth i fusnesau cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae disgwyl i'r cynllun fod o fudd i tua 940 o fusnesau yn y fwrdeistref sirol a bydd yn cynorthwyo gyda'r adferiad parhaus yn dilyn y pandemig yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â'r heriau economaidd parhaus.
Bydd busnesau cymwys wedi’u meddiannu yn cael cynnig gostyngiad o 75% oddi ar y bil ardrethi busnes ar gyfer pob eiddo. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws pob eiddo sydd dan feddiant gan yr un busnes ledled Cymru.
Rhaid i'r busnes fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai. Mae busnesau nad ydynt yn gymwys yn cynnwys casinos, busnesau gwarchod cŵn a chathdai, meithrinfeydd dydd a gwasanaethau meddygol ac ariannol.
Bydd y cynllun rhyddhad ardrethi ar gael ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 tan 31 Mawrth 2024. Rhaid i fusnesau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd wneud cais am y rhyddhad ardrethi hwn ar-lein drwy wefan BCBC ar ôl 1 Ebrill 2023.
Rwy'n falch iawn bod y Cabinet wedi mabwysiadu'r cynllun rhyddhad ardrethi newydd hwn a fydd yn helpu busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Byddwn yn annog y busnesau hynny i wneud cais am y rhyddhad ardrethi hwn pan fydd yn agor fis nesaf.
Mae'n gyfnod anodd iawn i fusnesau yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd ar hyn o bryd yn wynebu cyfnod economaidd heriol ar yr un pryd â cheisio adfer yn dilyn effeithiau'r pandemig.
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Aelod Cabinet dros Adnoddau:
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd a manylion am sut i wneud cais ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.