Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Ymgysylltiad a Chyfranogiad
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 20 Mawrth 2024
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ystyried ac wedi cymeradwyo cyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltiad, yn dilyn yr ymatebion a gafwyd yn ystod ymgynghoriad 12 wythnos ar y strategaeth ddrafft.
Yn dilyn ymgysylltiad helaeth â thrigolion o'r fwrdeistref sirol a rhanddeiliaid allweddol eraill rhwng diwedd mis Hydref 2023 a mis Ionawr 2024, derbyniwyd cyfanswm o 227 o ymatebion. Rhoddwyd yr adborth drwy ymatebion papur, ar-lein ac awgrymiadau a gyflwynwyd i fwrdd syniadau ar-lein. Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn cytuno ag uchelgeisiau arfaethedig y strategaeth sef:
- Cyflwyno hwb ar-lein hygyrch, hawdd i’w ddefnyddio i goladu ymgynghoriad, ymgysylltiad a gweithgareddau cyfranogiad yr awdurdod lleol ynghyd, gyda’r amcan tymor hir o ddatblygu porth sy’n cysylltu pob llwybr cyfranogiad yn y fwrdeistref sirol.
- Sicrhau ymgysylltiad a chyfranogiad effeithiol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
- Defnyddio’r dulliau diweddaraf a gorau o ymgysylltu â thrigolion y fwrdeistref sirol.
Yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol, mae gennym ddyletswydd i ymgysylltu’n effeithiol â’n trigolion. Ein cyfrifoldeb ni yw sefydlu cyfryngau cyfathrebu clir, gan sicrhau bod ein negeseuon yn eglur, wrth alluogi trigolion i fynegi eu syniadau a’u barn ar yr un pryd.
Gwnaethom hyrwyddo’r ymgynghoriad drwy sawl cyfrwng cyfathrebu, yn amrywio o’r cyfryngau cymdeithasol i nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ledled y fwrdeistref sirol - mae'n galonogol gweld bod y mwyafrif o’r ymatebwyr yn cytuno â’r amcanion sydd wedi cael eu cynnig. Mae hon yn sylfaen wych ar gyfer symud ymlaen i ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu gwell gyda thrigolion y fwrdeistref sirol.
Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio