Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Ddi-Garbon, 2030
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 13 Ionawr 2023
Mae cynllun sy’n amlinellu sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu gweithio tuag at dargedau Llywodraeth Cymru ar gyflawni statws di-garbon net erbyn y flwyddyn 2030, wedi cael cymeradwyaeth y Cabinet.
Mae Strategaeth Ddi-Garbon Net 2030 yn nodi sut y bydd y cyngor a'i bartneriaid yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu ystod o systemau trafnidiaeth, pŵer a gwresogi newydd sy'n addas ar gyfer cerbydau ac adeiladau. Y bwriad yw gwella mannau gwyrdd, lleihau biliau tanwydd a lleihau allyriadau carbon.
Bwriad y strategaeth, a fydd yn cael ei hymgorffori yng Nghynllun Corfforaethol newydd y cyngor, yw ategu ymrwymiadau presennol y cyngor i wneud gwasanaethau’n fwy ecogyfeillgar ar bob lefel o’r sefydliad.
Yn dilyn cais gan y Pwyllgor Craffu i ddarparu rhagor o wybodaeth am gost debygol y strategaeth a’i rhoi ar waith, eglurodd Janine Nightingale y Cyfarwyddwr Cymunedau, yn hytrach na chynrychioli cynllun gweithredu â manylion unigol, ei fod yn ffurfio fframwaith cyffredinol ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar y cyngor yn yr hirdymor er mwyn cyrraedd targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Janine: “Mae hon yn strategaeth gorfforaethol sy’n nodi ein dyheadau fel awdurdod lleol i leihau ein hôl troed carbon 90,000 tunnell. Bydd angen ymgorffori unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â chamau gweithredu penodol ym mhob cam, ynghyd â manylion ffynonellau cyllid allanol perthnasol. Bydd hefyd angen ymgorffori gofynion arian cyfatebol mewnol yn amodol ar adolygiad blynyddol a chymeradwyaeth.
“Fel strategaeth gorfforaethol drosfwaol, mae’n cyffwrdd â llawer o feysydd gwahanol o fusnes y cyngor. Mae mor berthnasol i’r materion megis sut rydym yn caffael gwasanaethau a nwyddau neu’n datblygu arferion gwaith mwy cynaliadwy, ag y mae’n ymwneud â chyflwyno cerbydau fflyd newydd neu wneud ein system wresogi a systemau pŵer yn fwy ynni-effeithlon.”
Mae rhagor o wybodaeth am Strategaeth Di-Garbon Net 2030 ar gael ar y wefan gorfforaethol yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae Strategaeth Ddi-Garbon Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030 yn nodi penllanw 18 mis o waith helaeth. Mae wedi bod yn destun mewnbwn gan arbenigwyr cydnabyddedig yn yr Ymddiriedolaeth Garbon, yn ogystal ag adborth o ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos. Mae’n un o’r rhai cyntaf yng Nghymru i gael ei ddatblygu yn unol ag argymhellion Sero Net Sector Cyhoeddus Cymru, Canllaw Adrodd ar Garbon. Wedi’i chefnogi gan gynlluniau Ynni Ardal Leol, Ynni Clyfar a Seilwaith Gwyrdd y cyngor, bydd y strategaeth yn rhoi llwybr i’r cyngor ar gyfer datblygu systemau trafnidiaeth, pŵer a gwresogi datblygedig yn ddigidol, yn ogystal â mannau gwyrdd sy’n cyrraedd targedau datgarboneiddio’r DU. Bydd Strategaeth Ddi-Garbon Net 2030 hefyd yn ein galluogi i chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â’r her hinsawdd fyd-eang, ac i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a Chymru, cymunedau lleol, y sector cyhoeddus a phartneriaid preifat wrth i ni geisio cyflawni ein hymrwymiadau di-garbon.
Y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Gymunedau: