Cabinet yn cymeradwyo Polisi Diogelu diwygiedig y Cyngor
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo Polisi Diogelu Corfforaethol diwygiedig a fydd yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cydymffurfio â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Cafodd y Polisi Diogelu ei ddiwygio ddiwethaf ym mis Mehefin 2021, ac mae’r fersiwn diweddaraf yn cynnwys gofynion ychwanegol parthed asesiadau risg, hunanasesu a sicrhau ansawdd. Yn benodol, mae gofyn i gyflwyno’r adroddiad blynyddol sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd diogelu corfforaethol i’r Cabinet a Chraffu
Yn ogystal, mae’r polisi diwygiedig yn amlygu bod diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb yn y cyngor, a hefyd yn nodi’n glir sut all y cyngor fodloni ei gyfrifoldebau diogelu corfforaethol.
Nod y Polisi Diogelu diwygiedig yw bod yn rhagweithiol wrth reoli a lleddfu risgiau i ddiogelwch a llesiant plant ac oedolion, wrth sicrhau’r gallu i weithredu’n bendant ac yn amserol wrth fynd i’r afael â phryderon difrifol.
Mae’n cyflwyno dulliau clir a fydd yn galluogi’r cyngor i fodloni ei gyfrifoldebau diogelu corfforaethol; gan gefnogi pobl i fyw bywydau haeddiannol, yn rhydd rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie