Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau ehangu Ysgol Gynradd Coety
Poster information
Posted on: Dydd Llun 02 Hydref 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau i ehangu Ysgol Gynradd Coety yn dilyn canlyniad rhybudd statudol.
Bydd hyn yn arwain at gapasiti’r ysgol yn cynyddu o 420 i 525 o leoedd ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 oed.
Nododd gwerthusiad opsiynau blaenorol yr angen i gynyddu nifer y lleoedd yn yr ysgol a chanfuwyd mai estyniad deulawr, pedair ystafell ddosbarth oedd yr opsiwn a ffefrir. Bydd pob ystafell ddosbarth newydd yn cyrraedd targedau carbon sero net mewn perthynas ag adeiladu a gweithredu.
Bydd cyfle hefyd i gynyddu darpariaeth feithrinfa dry ychwanegu 12 lle llawn amser ychwanegol. Mae hyn yn golygu y bydd 75 o leoedd llawn amser i ddisgyblion rhwng 3-4 oed a 9 lle rhan amser arall i ddod â’r cyfanswm i 84.
Bydd yr iard bresennol hefyd yn cael ei hymestyn, a bydd cyrtiau chwaraeon yn cael eu paentio ar fannau awyr agored. Bydd hyn yn helpu i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn nifer y disgyblion yn yr ysgol.
Yn ogystal, bydd cyfleusterau’r ysgol yn rhoi cyfle i gynnig cyrsiau Cymraeg i rieni/gofalwyr ac yn cefnogi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr awdurdod lleol, sy’n anelu at gynyddu nifer y cyfleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.
Mae ehangu Ysgol Gynradd Coety yn brosiect pwysig iawn sy’n helpu i sicrhau bod yr ysgol yn adlewyrchu’r twf parhaus yn yr ardal tra’n gwneud y mwyaf o’r dewis sydd ar gael i rieni/gofalwyr a dysgwyr.
Bydd y cynlluniau yn y pen draw yn golygu y bydd mwy o ddysgwyr yn cael y dewis i fynychu eu hysgol fwyaf lleol, ac yn aml gall hyn gael effaith sylweddol ar addysg unigolyn.
Rydym hefyd yn cynnig ail-leoli ac ehangu Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr gerllaw i safle newydd sbon. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn parhau i elwa o’r dewis o addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg o ansawdd uchel.
Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:
Bydd cais cynllunio nawr yn cael ei gyflwyno wrth i’r prosiect symud ymlaen i’w gam nesaf.