Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae'r cyngor
Poster information
Posted on: Dydd Iau 26 Ionawr 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae ar gyfer 2022-2024. Nod y cynllun yw cyflawni'r cyfleoedd chwarae gorau i blant a phobl ifanc mewn ystod eang o weithgareddau ar draws y fwrdeistref sirol.
Fel rhan o agenda gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru, mae gan y cyngor Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd chwarae i lesiant a sut y gellir effeithio'n negyddol ar blant a phobl ifanc drwy 'dlodi o ran profiad', sy'n cynnwys diffyg cyfle i chwarae. Yn y cyd-destun hwn, mae 'chwarae' yn cyfeirio ar amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys chwaraeon, hamdden, diwylliant, yn ogystal â gwaith ieuenctid.
Yn dilyn asesiad manwl, defnyddiwyd y data a gasglwyd i greu'r cynllun gweithredu ar gyfer 2022-2024. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar ddod o hyd i'r heriau a lleihau unrhyw anfanteision y gall plant a phobl ifanc eu profi wrth geisio cyfleoedd chware teg o ansawdd.
Wrth fod yna angen i sicrhau cydraddoldeb mewn darpariaeth chwarae i'r rhai sy'n byw gydag anableddau, anghenion amrywiol neu ychwanegol, mae'r asesiad wedi amlygu sut mae'r pandemig wedi cael effaith niweidiol ar lesiant nifer o bobl ifanc. Nod y Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae yw cynorthwyo i fynd i'r afael â'r her hon.
Efallai y bydd rhaid ail ystyried neu gynllunio'n wahanol er mwyn i gyfleoedd chwarae fod yn fwy hygyrch a chynhwysol, yn ogystal â chael eu siapio gan gyfraniad pobl ifanc, sefydliadau partner a chymunedau - dull 'un cyngor' i ymgysylltu â phawb, i ail adeiladau cyfleoedd chwarae yn lleol.
Yn dilyn cyfyngiadau'r pandemig ar blant a phobl ifanc, mae cyfleoedd i chwarae yn hanfodol er mwyn ail adeiladu llesiant a hyder.
Mae cael mynediad i fannau a lleoedd o ansawdd, yn ogystal ag ystod amrywiol o weithgareddau a chyfleoedd, yn hollbwysig i iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol ein pobl ifanc.
Mae gan y cyngor rôl hanfodol yn amlygu gwerth cyfleoedd i chwarae i'w bartneriaid a chymunedau, fel y gallwn barhau i gydweithio ar wella bywydau a llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol