Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet yn cael diweddariad ar gynlluniau'r Gronfa Ffyniant a Rennir gwerth £21m

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael diweddariad ynghylch sut mae'r awdurdod yn bwriadu elwa ar Gronfa Ffyniant a Rennir newydd Llywodraeth y DU.

Wedi'i gynllunio i adleoli cronfeydd strwythurol Ewrop, mae cynghorau'n cael eu hannog i wneud cais am y Gronfa Ffyniant a Rennir a'i ddefnyddio ar gyfer prosiectau sy'n rhoi hwb i gynhyrchiant, safonau byw, swyddi a thâl, sy'n annog y sector preifat i dyfu, creu cyfleoedd, gwella gwasanaethau cyhoeddus, ymgorffori ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, ac sy'n grymuso arweinwyr lleol a chymunedau.

Gan fod disgwyl i gynghorau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gydweithio a bwydo mewn i un cynllun buddsoddi rhanbarthol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cael ei benodi i weithredu fel yr awdurdod arweiniol, i ddatblygu cynlluniau unigol yr ardal.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio cyfanswm o dros £21m dan themâu pobl a sgiliau, cefnogi busnes lleol, a chymuned a lle.

Ymysg y prosiectau mae'r awdurdod eisiau eu cefnogi mae:

  • Ychydig dros £1m ar gyfer prosiectau iechyd, hinsawdd ac economaidd a fydd yn datblygu cymunedau lleol cryfach a mwy gwydn, ynghyd â 'Hwb Gwytnwch' yn cynnwys ardal ar gyfer arddangosfeydd ac arddangosiadau, yn ogystal ag ardal ar gyfer masnachwyr a gweithdai a seminarau dros dro.
  • Dros £2m ar gyfer prosiectau a mentrau a fydd yn helpu i ddatblygu capasiti cymunedol, fel sefydlu cronfa trydydd sector newydd ar gyfer ymestyn grantiau sy'n cefnogi eiddo masnachol y tu hwnt i ganol trefi.
  • £725,000 ar gyfer prosiectau a gwelliannau mannau gwyrdd fel Ffordd Fawreddog Morgannwg, rhwydwaith 270km o 'goridorau gwyrdd' sy'n cysylltu cymunedau ledled y rhanbarth.
  • £400,000 i gefnogi cynlluniau buddsoddi a datblygu lleol.
  • £3m ar gyfer fframwaith cyd-gynhyrchu ffyniant rhwng y cyngor a sefydliadau lleol priodol ar draws holl feysydd Cronfa Ffyniant a Rennir y DU.
  • £3.5m i sefydlu canolfannau menter newydd ar draws y fwrdeistref sirol.
  • £425,000 i gefnogi cynlluniau buddsoddi a datblygu sy'n cyflwyno opsiynau newydd ar gyfer arallgyfeirio, datgarboneiddio a thwf.
  • £450,000 i gynnig hyfforddiant, cyngor a mwy fel rhan o raglen cymorth menter leol, gan gynnwys cyfleoedd i brofi cynnyrch newydd.
  • £450,000 i gefnogi'r gwaith o ddatblygu rhagor o ddigwyddiadau i dwristiaeth ledled y fwrdeistref sirol.
  • £150,000 i gynnig a gwella ymgyrchoedd marchnata wedi'u targedu mewn partneriaeth â'r diwydiant twristiaeth lleol.
  • £8m i gefnogi pecyn fframwaith sgiliau a chyflogadwyedd a fydd yn cefnogi pobl mewn cyflogaeth a sectorau allweddol, pobl ddi-waith ac sy'n economaidd anweithgar a phobl ifanc i ddod o hyd i swydd.
  • Bron i £4m ar gyfer y fenter Lluosi sydd â'r nod o wella sgiliau rhifedd ymysg oedolion a'u helpu i ddatblygu sgiliau newydd.

Fel y prif awdurdod o fewn y rhanbarth, bydd Rhondda Cynon Taf bellach yn cyflwyno cynllun buddsoddi lleol y cyngor ar gyfer Llywodraeth y DU i'w ystyried yn fanylach. Cadwch lygad allan am adroddiadau pellach i'r Cabinet wrth i’r cynllun ddatblygu.

Chwilio A i Y