Bydd plant yn cael y pleser o haf llawn hwyl am ddim mewn sesiynau Active 4 Life sy’n cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled y fwrdeistref sirol.
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2023
Bydd plant yn cael y pleser o haf llawn hwyl am ddim mewn sesiynau Active 4 Life sy’n cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled y fwrdeistref sirol.
Bydd y cynllun, sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Halo Leisure a Chynghorau Cymuned a Thref, yn addas i blant rhwng wyth ac 11 oed, a byddant yn canolbwyntio ar chwaraeon, gemau, a gweithgareddau celf a chrefft.
Bydd y fenter yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 24 Gorffennaf a dydd Gwener 1 Medi.
I gael gwybod sut i archebu sesiynau o flaen llaw, ewch i wefan Halo Leisure.
Tabl o gynlluniau Active 4 Life sy’n cael eu cynnal ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliadau Active 4 Life |
Dyddiad y sesiwn |
Amser y sesiwn |
Canolfan Bywyd Cwm Garw |
Yn ystod dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 1 Medi |
Cysylltwch â Halo Leisure i gadarnhau’r amseroedd |
Canolfan Chwaraeon Maesteg |
Yn ystod dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 1 Medi |
Cysylltwch â Halo Leisure i gadarnhau’r amseroedd |
Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr |
Yn ystod dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 1 Medi |
Cysylltwch â Halo Leisure i gadarnhau’r amseroedd |
Canolfan Bywyd Cwm Ogwr |
Yn ystod dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 1 Medi |
Cysylltwch â Halo Leisure i gadarnhau’r amseroedd |
Canolfan Bywyd Betws (gyda chefnogaeth Cyngor Cymuned Cwm Garw a Halo Leisure) |
Dydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener, 24 Gorffennaf - 1 Medi |
Cysylltwch â Halo Leisure i gadarnhau’r amseroedd |
Tabl o weithgareddau Haf o Hwyl gyda chefnogaeth cynghorau tref lleol
Lleoliad |
Dyddiad y sesiwn |
Amser y sesiwn |
Ysgol Gyfun Pencoed (Gyda chefnogaeth Cyngor Tref Pencoed) |
Yn ystod dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 18 Awst |
10am – 2pm |
Canolfan Chwaraeon Bracla/Ysgol Archesgob McGrath (Gyda chefnogaeth Cyngor Cymuned Bracla) |
Yn ystod dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 18 Awst |
10am – 2pm |
Canolfan chwaraeon Ysgol Gyfun Porthcawl |
Yn ystod dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 18 Awst |
10am – 2pm |
Prosiect Plant a Chymuned Noddfa (Caerau) (Gyda chefnogaeth Cyngor Tref Maesteg) |
Dydd Llun i ddydd Iau, 24 Gorffennaf i 17 Awst
|
10am – 2pm |
Nodwch nad yw’r sesiynau wedi eu dylunio i gymryd lle gofal plant ac mae’n rhaid i rieni/gofalwyr fod ar gael i ddod i nôl eu plant bob amser.
Am wybodaeth am weithgareddau eraill i blant yr haf hwn, ewch i wefan y cyngor.