Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bydd Storm Darragh yn taro Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont at Ogwr yn yr oriau mân

Yn dilyn rhybudd ddoe ynghylch tywydd garw yn taro Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y penwythnos hwn. Mae’r Met Office nawr wedi uwchraddio ei rybudd tywydd Melyn ar gyfer ‘gwyntoedd cryfion’ i Goch ar gyfer ‘gwyntoedd mawr’ ac Ambr ar gyfer glaw trwm.

Disgwylir i Storm Darragh daro’r fwrdeistref sirol yn oriau mân bore Sadwrn 7 Rhagfyr, a rhagwelir y bydd y gwaethaf o’r gwyntoedd mawr, difrifol rhwng 3am ac 11am.

Mae rhybudd Coch y Met Office yn tynnu sylw at berygl i fywyd oherwydd malurion yn hedfan a choed yn disgyn. Disgwylir y bydd rhai ardaloedd yn wynebu gwyntoedd yn hyrddio 90mya ac mae'n debygol y bydd achosion eang o lifogydd, cau ffyrdd a difrod i eiddo. Mae’n debygol iawn y bydd teithio yn cael ei amharu arno; gan hynny, cynghorir pobl i beidio â theithio oni bai ei fod yn gyfan gwbl angenrheidiol.

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae criwiau wrthi'n gwirio cafnau, ffosydd a draeniau er mwyn sicrhau eu bod yn glir cyn i'r storm ein cyrraedd ni, a byddant hefyd yn gwneud y paratoadau angenrheidiol os bydd lifogydd.

Gan ddefnyddio offer yn amrywio o beiriannau JCB a llifiau cadwyn i jetiau cafnau arbenigol, bydd gweithwyr ar ddyletswydd gydol y storm er mwyn cadw ffyrdd yn agored a chartrefi, pobl ac eiddo yn ddiogel.

Disgwylir i effeithiau mwyaf y storm gael eu teimlo ar hyd yr arfordir, lle disgwylir i wyntoedd cryfion a llanw uchel achosi nifer o broblemau o safbwynt diogelwch. Cynghorir preswylwyr yn gryf i beidio ag ymweld â’r arfordir yn ystod y storm a fydd, fwy na thebyg, yn achosi perygl i’w bywydau a bywydau timau achub os gelwir arnynt.

Mae rhai digwyddiadau Nadolig oedd wedi’u cynllunio gan ein partneriaid, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ar gyfer yfory (dydd Sadwrn 7 Rhagfyr) bellach wedi cael eu canslo o ganlyniad i’r rhybudd tywydd difrifol, gan gynnwys y farchnad Crefftau Nadolig yn Neuadd y Dref Maesteg, digwyddiadau yn Neuadd y Gweithwyr, Blaengarw a Chanolfan Gymunedol Awel-y-Môr ym Mhorthcawl ynghyd â digwyddiadau awyr agored ym Mharc Gwledig Bryngarw.

  • Bydd ein holl lyfrgelloedd ar draws y fwrdeistref sirol hefyd ar gau ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr
  • Bydd Canolfannau Ailgylchu Cymunedol ar gau ar fore'r 7fed o Ragfyr gan ailagor o bosib yn ddiweddarach yn y dydd, yn ddibynnol ar y tywydd.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Bydd criwiau o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio drwy gydol y penwythnos i gadw cartrefi, pobl ac eiddo yn ddiogel yn ystod Storm Darragh.

“Rydym yn argymell yn gryf y dylai pobl aros y tu mewn yn ystod y storm a helpu drwy gadw unrhyw eitemau y tu allan sy’n rhydd yn eu gerddi a allai gael eu chwythu i ffwrdd ac achosi difrod i eiddo gerllaw.

“Peidiwch os gwelwch yn dda ag ymweld â’r arfordir yn ystod y tywydd hwn, gan y bydd gwneud hynny yn beryglus iawn a gallai roi bywydau mewn perygl.

“Os ydych chi angen cymorth brys oherwydd llifogydd, cysylltwch gyda’n prif rif ffôn os gwelwch yn dda: 01656 643643.”

Chwilio A i Y