Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bydd ardaloedd lleol yn elwa o £930,000 Grant Ysgolion Bro

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o fod wedi cael £930,000 fel rhan o Grant Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru.

Caiff y cyllid ei ddefnyddio i sicrhau bod rhagor o ysgolion yn gallu gweithredu a datblygu fel Ysgolion Bro, sy'n ymgysylltu â theuluoedd ac yn gweithio gyda'r gymuned ehangach i gefnogi'r holl ddisgyblion.

Mae'n rhan o becyn o fesurau a fydd yn cynnig rhagor o gymorth ar gyfer ysgolion i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, waeth beth fo'i gefndir.

Bydd y grant yn helpu i ariannu ffyrdd ymarferol o wella cyfleusterau ysgolion er mwyn galluogi rhagor o ddefnydd cymunedol.

Mae hyn yn cynnwys darparu storfa offer ar gyfer grwpiau cymunedol sy'n cynnal gweithgareddau allgyrsiol, gwella goleuadau allanol mewn ardaloedd chwaraeon, a chyflwyno mesurau diogelwch i sicrhau ardaloedd cymunedol diogel.

Bydd 27 o ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws y fwrdeistref sirol yn elwa o'r buddsoddiad hwn.

Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru: "Mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad er mwyn cyflawni dyheadau a safonau uchel i bawb.  Gwyddom fod y cartref a'r gymuned yn effeithio'n sylweddol ar gyfleoedd plant a phobl ifanc mewn bywyd, ac mae angen rhagor o gymorth ar athrawon er mwyn mynd i'r afael â'r materion mae rhai plant a phobl ifanc yn eu hwynebu.”

Mae Ysgolion Bro yn datblygu partneriaethau gydag ystod o sefydliadau, ac yn sicrhau bod gwasanaethau ar gael i deuluoedd a'r gymuned ehangach yn lleol.

Maent yn defnyddio eu cyfleusterau a'u hadnoddau i fod o fudd i'r cymunedau, gwella bywydau'r plant, atgyfnerthu teuluoedd a meithrin cymunedau cryfach. Mae'n galonogol gweld cynifer o'n hysgolion lleol yn cael cyllid drwy'r grant hwn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell:

Chwilio A i Y