Bwyty yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ennill teitl ‘Bwyty Gorau Cymru 2023’
Poster information
Posted on: Dydd Llun 20 Mawrth 2023
Mae Morgan’s Bistro and Cocktail Bar yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, wedi ennill teitl ‘Bwyty Gorau Cymru 2023’ yng Ngwobrau Busnes Gorau Cymru 2023, a oedd yn cael eu cynnal yr wythnos yng Ngwesty Mecure Holland House yng Nghaerdydd.
Agorodd y bwyty Ffrengig gyntaf ym mis Awst 2020, ac mae wedi’i leoli mewn adeilad ar Stryd Caroline, a gafodd ail-fywyd fel rhan o gynllun Treftadaeth Treflun Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd Morgan’s Bistro and Cocktail Bar yn un o sawl busnes yng nghanol y dref a enwebwyd am wobr, ynghyd â Beth Daniels Hair Design, a gipiodd anrhydedd 'Clod Uchel' yn y categori siop trin gwallt, a Dean Morgans Salon, a gafodd ei enwebu yn y categori ‘Salon Trin Gwallt Gorau’, a Cabo Roche, a gafodd ei enwebu yng nghategori 'Tafarn Orau'r Flwyddyn, Busnes Teuluol'.
Mae buddugoliaeth y Bistro’n dilyn gwobr ‘Bwyd, Diod a Lletygarwch Canmoliaeth Uchel’ yng Ngwobrau Twf Busnes 2023 yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Adrian Reynolds, Cyfarwyddwr a Phrif Gogydd Morgan’s Bistro and Cocktail Bar: “Fel bwyty annibynnol, bach, rydym ar ben ein digon o fod wedi ennill y gwobrau ar gyfer ‘Bwyty Gorau Cymru 2023’, a ‘Bwyd, Diod a Lletygarwch Canmoliaeth Uchel'.
“Rydym mor falch o gael ein hadnabod am waith caled a dyfalbarhad ein staff ers lansio’r bwyty, yn enwedig yn ystod pandemig.
"Mae'n anrhydedd, a hoffem ddiolch i'n cwsmeriaid hyfryd am eu cefnogaeth ffyddlon a pharhaus, ac am bleidleisio."
Mae rhagor o fanylion am ‘fwytai cyrchfan’ yn y fwrdeistref sirol ar gael arwefan y cyngor.
Mae gwybodaeth ar barcio yng nghanol y dref hefyd ar gael ar wefan y cyngor a chaiff trigolion eu hatgoffa bod modd parcio am ddim ym maes parcio gwastad arwynebol Bracla 1 ar ôl 6pm.
Braf yw gweld cyn nifer o fusnesau o ganol dref Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu henwebu ar gyfer Gwobrau Busnes Gorau Cymru 2023, ac mae’n dangos faint o fusnesau annibynnol, arbennig, sydd gan ein bwrdeistref sirol i’w cynnig. “Mae’n wych bod Morgan’s Bistro and Cocktail Bar wedi ennill gwobr fawreddog ‘Bwyty Gorau Cymru 2023’, ac mae’n hwb mawr i fwytai eraill yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r bwyty Ffrengig yn un o nifer o ‘fwytai cyrchfan’ annibynnol sy’n denu ymwelwyr i’r dref, ynghyd â Poco Poco, Zia Nina, Il Colosseo, Franco’s Ristorante Vecchio, La Cocina, Tholos, a Marble, sy’n arbenigo mewn bwydydd Sbaenaidd, Groegaidd, ac Eidalaidd. “Llongyfarchiadau i Adrian a’r tîm ar eu llwyddiant arbennig ac am roi canol tref Pen-y-bont ar Ogwr ar y map fel cartref ‘Bwyty Gorau Cymru.
Y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio