Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Beth mae Canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol yn eu Golygu i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Yn dilyn Etholiad Seneddol y DU yn ddiweddar, mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei chynrychioli gan dri Aelod Seneddol ac wedi ei rhannu’n dair etholaeth newydd.

O ganlyniad i adolygiad ffiniau cenedlaethol, cyflwynwyd y newidiadau i sicrhau bod pob ardal tua’r un maint o ran eu daearyddiaeth a’u poblogaeth. Mae hyn yn golygu bod hen sedd Ogwr wedi ei dileu.

Yn ogystal â’r ardaloedd a oedd yn rhan o’r etholaeth yn flaenorol, mae Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn cynnwys wardiau Abercynffig, Bryncethin, Bryn-coch, Cefncribwr, Hendre, Felindre, Pen-prysg, Sarn ac Ynysawdre (a oedd i gyd yn arfer bod yn rhan o Ogwr).

Mae’r newidiadau hefyd yn golygu bod wardiau Caerau, Llangynwyd, Dwyrain Maesteg a Gorllewin Maesteg (a oedd yn arfer bod yn rhan o Ogwr) a Chorneli a’r Pîl (a oedd yn arfer bod yn rhan o Ben-y-bont ar Ogwr) wedi symud i etholaeth Aberafan Maesteg.

Yna, mae etholaeth newydd Rhondda Ogwr yn cynnwys y wardiau canlynol a arferai fod yn rhan o Ogwr: Melin Ifan Ddu, Blaengarw, Betws, Llangeinwyr, Nant-y-moel, Bro Ogwr a Phontycymer.

Dyma restr o’r canlyniadau:

Aberafan Maesteg- AS a Etholwyd: Stephen Kinnock (Llafur Cymru)

Canlyniadau: Stephen Kinnock (Llafur Cymru)- 17,838, Mark Griffiths (Reform UK)- 7,484, Colin Deere (Plaid Cymru)- 4,719, Abigail Mainon (Ceidwadwyr Cymreig)- 2,903, Nigel Hill (y Blaid Werdd)- 1,094, Justin Griffiths (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)- 916, Captain Beany (Annibynnol)- 618 a Rhiannon Morrissey (Plaid Treftadaeth)- 183

Y nifer a bleidleisiodd: 35,755 (49.3%)

Pen-y-bont ar Ogwr- AS a Etholwyd: Chris Elmore (Llafur Cymru)

Canlyniadau: Chris Elmore (Llafur Cymru)- 16,516, Caroline Jones (Reform UK)- 7,921, Anita Boateng (Plaid Geidwadol Cymru)- 6,764, Iolo Caudy (Plaid Cymru)- 3,629, Mark John (Annibynnol)- 3,338, Debra Cooper (y Blaid Werdd)- 1,760, Claire Waller (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)- 1,446

Y nifer a bleidleisiodd: 41,482 (56.7%)

Rhondda Ogwr- AS a Etholwyd- Chris Bryant (Llafur Cymru)

Canlyniadau: Chris Bryant (Llafur Cymru)- 17,118, Darren James (Reform UK)- 9,328, Owen Cutler (Plaid Cymru)- 5,198, Adam Robinson (Plaid Geidwadol Cymru)- 2,050, Christine Glossop (y Blaid Werdd)- 1,177, Gerald Francis (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)- 935

Y nifer a bleidleisiodd: 35,806 (48%)

Hoffwn annog ein preswylwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ymgyfarwyddo â’u hetholaeth newydd a’u AS newydd yn dilyn y newidiadau sylweddol i’r ffiniau ar gyfer yr etholiad hwn.

Gallwch weld mapiau ar gyfer bob un o’r etholaethau newydd, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Aberafan a Maesteg, a Rhondda ac Ogwr drwy fynd i wefan y Comisiwn Ffiniau a sgrolio drwy’r rhestr o ardaloedd.. Gallwch hefyd chwilio drwy ddefnyddio cod post ar wefan Senedd y DU.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Chwilio A i Y