Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arwyr anhysbys yn cael eu hanrhydeddu Gan Gyn-Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

Mae Cyn-Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd William Kendall wedi cydnabod y cyfraniadau rhagorol gan wirfoddolwyr, hyrwyddwyr elusennau, a hoelion wyth eraill y gymuned leol yng Ngwobrau Dinasyddiaeth y Maer eleni.

Mae'r gwobrau yn cael eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn tynnu sylw at y rhai sy'n gwneud ymdrech ychwanegol er budd eraill.

Ymysg y 13 o enillwyr mae grŵp cymorth ar gyfer ffoaduriaid o Wcrain ym Maesteg, gwirfoddolwr o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub sydd yn ddiweddar wedi dathlu hanner canrif o fod yn gwasanaethu a dyn lleol wnaeth wisgo fel Spiderman yn rhedeg drwy'r strydoedd i godi arian ar gyfer achosion da. 

Mae wedi bod yn anrhydedd fawr clywed am y cyfraniadau rhagorol sy'n digwydd ledled y fwrdeistref sirol ac roedd yn fraint cael cyflwyno'r gwobrau i'r enillwyr haeddiannol.

Mae'n holl bwysig bod ein harwyr anhysbys yn derbyn y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu ac ro'n i wir wedi fy synnu gan yr amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian a gweithredoedd llawn cariad sydd wedi cymryd lle.

Hoffwn ddiolch i drigolion am anfon eu henwebiadau, ac nid oedd y broses ddethol yn dasg hawdd. Mae'n amlwg ein bod wedi derbyn llu o enwebiadau gan unigolion a grwpiau sy’n mynd gam ymhellach er budd eraill.

Dywedodd Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd William Kendall:

Dyma enillwyr y gwobrau unigol:

David White: Ychydig cyn iddo farw derbyniodd David gydnabyddiaeth fel un o enillwyr eleni am ei wasanaeth yn gwirfoddoli a'i wasanaeth cyhoeddus ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. P'un ai yn fanciau bwyd neu foreau coffi, gwerthu llyfrau ar gyfer elusen neu wisgo fel Siôn Corn ar gyfer digwyddiadau'r Nadolig, roedd David bob amser yn gweithio i hyrwyddo achosion da lleol yn ei amser sbâr, gan dreulio'i fywyd yn codi arian ar gyfer nifer o elusennau. Roedd ei ffurflen enwebu yn gorffen trwy ddweud: "Byddai’n anodd dod o hyd i ddyn mwy caredig a haeddiannol."

Lisa Pritchard: Lisa yw sylfaenydd y fenter cyfnewid teganau Nadolig yng Nghorneli sy'n helpu i sicrhau bod teuluoedd yn gallu rhoi anrhegion i'w plant dros gyfnod yr Ŵyl heb orfod poeni am bwysau costau byw. Mae hi hefyd yn Gydlynydd gofalwyr ifanc ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr lle mae'n gweithio'n ddiflino i gefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd ar hyd a lled y fwrdeistref sirol. 

Maxine Huntley: Mae Maxine yn gefnogwr brwd o bob agwedd ar fywyd cymunedol ac mae wedi ei chydnabod am ei gwaith gwirfoddoli yn Y Pîl a Mynydd Cynffig dros y 30 mlynedd ddiwethaf. Mae hi wedi gwirfoddoli yn Siop Elusen Theo's ers iddi agor dros 10 mlynedd yn ôl, ynghyd â rheoli'r Neuadd Sgowtiaid a Geidiaid ym Mynydd Cynffig a chynnal grwpiau Brownis a Rainbow ar gyfer plant lleol.

Philip Missen: Yn gynharach eleni, fe wnaeth Philip ddathlu 50 mlynedd fel gwirfoddolwr ar gyfer RNLI Porthcawl. Dechreuodd fel aelod o'r criw ac mae wedi bod yn Rheolwr Gweithrediadau'r Bad Achub ers 1998 ac mae'n frwd dros dynnu sylw at negeseuon diogelwch yn y dŵr i ysgolion a sefydliadau lleol eraill.

Richard Durston: Drwy gydol y pandemig, fe wnaeth Richard wisgo fel Spiderman a rhedeg drwy bob stryd ym Mlaengarw, Pontycymer, Pont-y-rhyl, Llangeinor a Brynmenyn. Llwyddodd i godi dros £10,000 ar gyfer y GIG ac elusennau lleol eraill, ac ers hynny mae unwaith eto wedi trawsffurfio ei hun i fod yn Spiderman ar gyfer dros 90 o bartïon pen-blwydd, gan godi dros £15,000 gyda'i gilydd.

Dyma'r enillwyr grŵp:

Baobab Bach CIC Community Pantries: Mae'r grŵp yn gweithio gyda'r gymuned leol er mwyn darparu bagiau fforddiadwy o fwyd tra'n helpu i leihau gwastraff bwyd. Ers i'r prosiect gael ei lansio, mae dros 19,000 o fagiau bwyd wedi cael eu cyflenwi i breswylwyr ac mae tîm o tua 90 o wirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol yn tyfu llawer o'r cynnyrch.

Barc Community Outreach Centre: Mae staff a gwirfoddolwyr ar alw 24 awr y dydd ac yn bresennol yn y gymuned ddydd a nos i'r rhai sydd mewn angen. Mae'r ganolfan wrth galon y gymuned leol ac yn cynnig ystod o gefnogaeth gan gynnwys bwyd, tanwydd a chynnig lle diogel, cynnes. Mae staff a gwirfoddolwyr hefyd yn codi arian ac yn aml yn defnyddio eu harian eu hunain er mwyn darparu adnoddau hanfodol i'r rhai sydd mewn angen.

Bargains Galore: Ffurfiwyd y grŵp hwn gyda'r nod cyffredin o godi arian ar gyfer elusennau a grwpiau cymunedol trwy, ar yr un pryd, gefnogi teuluoedd ac unigolion oedd yn cael amser caled gyda'r argyfwng costau byw. Mae'r grŵp yn cynnig nwyddau am brisiau fforddiadwy iawn, gyda'r arian wedyn yn cael ei roi yn ôl i elusennau lleol er mwyn cefnogi'r rhai sydd mewn angen.

Coity Festivals: Ers ei ffurfio ychydig dros ddegawd yn ôl, mae Coity Festivals wedi codi miloedd o bunnoedd tuag at achosion da ac wedi dod â'r gymuned leol at ei gilydd drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau. Mae eu digwyddiadau 'Jam yn y Castell' yng Nghastell Coety yn arbennig wedi mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd diwethaf gan godi dros £50,000 gyda'i gilydd.


Family Breakfast Pyle: Er mwyn mynd i'r afael â thlodi bwyd ac unigrwydd cymdeithasol, mae'r grŵp gwirfoddol hwn yn cynnig brecwast am ddim ar fore Sadwrn tra'n sicrhau bod mathau eraill o gefnogaeth ar gael hefyd. Mae sefydliadau eraill megis Heddlu De Cymru yn aml yn mynychu er mwyn ymgysylltu gyda phreswylwyr ac mae cefnogaeth gan y banc bwyd lleol ar gael yn ogystal. Dechreuodd y grŵp drwy gefnogi 30 o deuluoedd ar y diwrnod cyntaf iddo fod ar agor, ac mae'r nifer hwnnw wedi cynyddu i dros 100. Yn ogystal, mae camau yn cael eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd tymor hir a thwf y grŵp.

Greenspace SOS: Mae'r grŵp wedi ymrwymo i wella amgylchedd lleol Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr trwy fod o fudd i les preswylwyr yn ogystal. Mae gwasanaethau gardd rhad ac am ddim yn cael ei gynnig i unigolion bregus a grwpiau er mwyn cynorthwyo gydag unrhyw bwysau a achosir gan yr argyfwng costau byw ac er mwyn annog pobl i dreulio amser y tu allan i wella eu hiechyd meddwl a'u lles. Mae sefydliadau eraill megis Meithrinfa Dechrau'n Deg, lloches achub anifeiliaid ac Ambiwlans St Ioan hefyd wedi derbyn cefnogaeth.

Safe Haven Maesteg: Sefydlwyd y grŵp yma er mwyn darparu pwynt cyswllt yng Nghwm Llynfi ar gyfer cenedlaetholwyr Wcráinaidd oedd yn ceisio lloches i ffwrdd o'u cartrefi ar adeg pan oedd ansicrwydd mawr yn ystod y rhyfel cyfredol. Mae'r sesiynau wythnosol yn galluogi unigolion o Wcráin i gwrdd yn wythnosol ac i rannu eu profiadau gyda'i gilydd tra'n derbyn cefnogaeth wrth iddynt geisio llywio eu bywydau newydd yng Nghymru. Mae'r gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys ceisiadau Credyd Cynhwysol, apwyntiadau canolfan gwaith yn ogystal â chyngor ar faterion allweddol eraill.

Western Beacons Mountain Rescue Team: Mae'r tîm sydd wedi'i leoli ym Mryncethin, a adwaenid cynt fel Tîm Achub Mynydd Sgowtiaid Pen-y-bont ar Ogwr, wedi ei ffurfio o blith gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser i gynorthwyo eraill mewn amgylchiadau anodd a pheryglus o amgylch de a chanolbarth Cymru. Maent hefyd yn darparu cefnogaeth ar gyfer digwyddiadau i elusen, megis 10K Richard Burton, a gallant ddarparu cymorth achub dŵr pan fo angen. Mae recriwtiaid yn gorfod ymgymryd â hyfforddiant trwyadl a gall gymryd rhwng 12 a 24 mis i ddod yn aelod cyflawn o'r tîm. Hyd yn oed i aelodau llawn, mae'r hyfforddiant yn rhywbeth sy'n digwydd yn barhaus gan fod dulliau ac offer yn newid yn gyson.

Chwilio A i Y