Arweinydd y Cyngor yn rhybuddio am y gyllideb fwyaf heriol hyd yn hyn
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 22 Medi 2023
Mae Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhybuddio mai’r broses gosod cyllideb arfaethedig ar gyfer 2024/2025 fydd y broses fwyaf heriol iddo ei gofio yn ystod ei gyfnod o fewn llywodraeth leol.
Ar ddiwedd chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol, amcangyfrifir y bydd gan y cyngor orwariant diwedd blwyddyn oddeutu £10 miliwn.
Mae’r prif bwysau ariannol yn codi o fewn meysydd gwasanaethau Cludiant rhwng y Cartref ac Ysgol a Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae’r lefelau uchel cyson o chwyddiant yn cael effaith ar gostau Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol, ac mae cynnydd esbonyddol yn y galw’n cael effaith benodol ar Ofal Cymdeithasol.
Mae'r awdurdod lleol yn cyflwyno hyd at 800 o wasanaethau sy’n amrywio o addysg a gwasanaethau cymdeithasol i blant a phobl ifanc, i gefnogi pobl sy’n ddigartref drwy weithredu rhaglenni adfywio a rhaglenni moderneiddio ysgolion.
Bob blwyddyn, fel rhan o’r broses pennu cyllidebau, mae’r cyngor yn ymgynghori gyda’r cyhoedd i ganfod eu barn ar beth ddylai fod yn feysydd o flaenoriaeth yn eu barn nhw wrth ddyranu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, ac i archwilio’r farn honno yn erbyn cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
O safbwynt ariannol, mae hwn yn gyfnod hynod heriol ar gyfer awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig, a’n anffodus, nid ydym wedi’n heithrio o’r pwysau hyn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae storm berffaith wedi’i chreu mewn perthynas â chyllid llywodraeth leol gyda’r rhyfel parhaus yn Wcráin, Brexit, ac wrth gwrs, lefelau uchel cyson chwyddiant i gyd yn cael effaith. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gyd mewn sefyllfa debyg i ni.
Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, ac mae’n anochel y bydd rhaid inni edrych yn fanwl ar bopeth rydym yn ei wneud a phennu a yw’n gynaliadwy parhau â hynny yn yr un modd wrth symud ymlaen. Bydd angen inni hefyd adolygu lefel ac amlder rhai gwasanaethau ac edrych p’un a oes angen cynyddu ffioedd neu gyflwyno ffioedd. Nid oes unrhyw gynigion wedi'u cadarnhau ar hyn o bryd, ond rwyf eisiau sicrhau bod trigolion yn ymwybodol o raddfa’r sefyllfa cyn i unrhyw gynigion ffurfiol ddod i’r amlwg.
Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym yn parhau i fod yn awdurdod lleol uchelgeisiol a llwyddiannus sy’n cyflwyno prosiectau a gwasanaethau arbennig ar gyfer pobl leol, sy’n gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn lle hyfryd i fyw a gweithio. Bydd ein Cynllun Corfforaethol newydd, ‘Cyflawni gyda’n Gilydd’, hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu’r cyngor i gyflawni ein nodau rhwng heddiw a 2028. Yn olaf, hoffwn ofyn i drigolion cadw llygad am ein hymgynghoriad cyllidebol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Byddwn yn eich annog i gymryd rhan yn y broses a rhannu eich barn gyda ni mewn perthynas â chyflwyno’r gwasanaethau hynny sydd wir yn bwysig i chi.
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David