Arweinwyr grŵp yn uno i fynd i’r afael â cham-drin cynghorwyr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 20 Medi 2023
Mae arweinydd pob grŵp gwleidyddol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dod ynghyd i wneud safiad yn erbyn cam-drin, bygwth a chodi ofn ar aelodau etholedig.
Bu cynnydd mewn adroddiadau o gam-drin yn ystod y misoedd diwethaf ac mae arweinwyr grwpiau gwleidyddol y cyngor bellach wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd i’w gwneud yn glir y gweithredir dull dim goddefgarwch ac y dylai pob achos o’r fath gael ei adrodd i Heddlu De Cymru.
Mae’r neges ar y cyd isod wedi’i chymeradwyo gan y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r grŵp Llafur, y Cynghorydd Amanda Williams, Arweinydd Annibynwyr Sir Pen-y-bont ar Ogwr a’r Cynghorydd Ross Penhale-Thomas, Arweinydd grŵp y Gynghrair Ddemocrataidd.
Mae'r datganiad fel a ganlyn:
“Waeth beth yw ein safbwyntiau gwleidyddol amrywiol, mae gan bob cynghorydd yr hawl i deimlo’n ddiogel wrth gynrychioli’r cymunedau yr ydym yn cael ein hethol i’w gwasanaethu.
“Rydym ni bob amser yn gwneud ein gorau i wneud yr hyn sy’n iawn i’r gymuned leol ond mae yna linell denau rhwng dadl ddemocrataidd iach a cham-drin a brawychu.
“Yn anffodus, mae’n ymddangos bod lleiafrif bach o bobl yn credu bod ganddynt yr hawl i gam-drin a bygwth cynghorwyr. Ni fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef, a bydd Heddlu De Cymru yn cael gwybod ar unwaith.
“Mae gan bob un ohonom yr hawl i deimlo’n ddiogel wrth gynnal cymorthfeydd cyhoeddus ac wrth gyfathrebu â thrigolion, wyneb yn wyneb ac ar-lein, a dylai’r rhai sy’n gyfrifol ddeall y bydd canlyniadau negyddol i'w gweithredoedd, nid yn unig i gynghorwyr ond i gymunedau lleol sydd angen ein cymorth.
“Mae cefnogaeth staff y Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei werthfawrogi’n fawr, ac maen nhw bob amser ar gael i gynghori unrhyw aelodau sydd, yn anffodus, yn dioddef camdriniaeth.
“Mae’n werth ailadrodd mai pleser yw ymwneud â’r rhan fwyaf o drigolion, ond rydym yn benderfynol o roi diwedd ar weithredoedd annerbyniol y lleiafrif.”
Mae canllaw ar y ffordd o orau o ymdrin â bygythiadau a chamdriniaeth ar gael i bob aelod ar wefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.