Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arbrawf Hybiau Cymunedol ar droed yng Nghymoedd Ogwr a Garw

 

Mae cynllun peilot hwb cymunedol ar droed bellach yng Nghymoedd Garw ac Ogwr fel bod y trigolion yn gallu derbyn cefnogaeth gyda nifer penodol o wasanaethau ar garreg eu drws.

Ar hyn o bryd tan ddiwedd mis Gorffennaf 2023, bydd Cynghorwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi’u lleoli yng Nghanolfan Bywyd Cwm Garw Halo ym Mhontycymer bob dydd Mercher rhwng 10am a 1.30pm, a Chanolfan Bywyd Cwm Ogwr Halo yng Nghwm Ogwr bob dydd Iau rhwng 10am a 1.30pm.

Dylai’r trigolion nodi bod y gefnogaeth sydd ar gael yn yr hybiau wedi’i chyfyngu i’r canlynol:

  • Ymholiadau a cheisiadau am fathodyn glas
  • Ceisiadau tai / digartrefedd
  • Ymholiadau cyfrif treth gyngor
  • Rhoi gwybod am faterion yn ymwneud â’r canlynol:
    • Priffyrdd – goleuadau stryd, tyllau yn y ffordd ac ati.
    • Gwastraff – taflu gwastraff yn anghyfreithlon, graffiti, baw cŵn ac ati.
    • Rheoli plâu (o fewn eu heiddo eu hunain)

Ar gyfer pob mater arall, cynghorir y trigolion i edrych ar ein gwefan ni i gael rhagor o wybodaeth neu ddefnyddio opsiynau hunanwasanaeth digidol y cyngor. Fel arall, gall y trigolion ffonio'r cyngor ar 01656 643643.

Mae'r un gefnogaeth ar gael hefyd yn holl lyfrgelloedd Awen ledled y fwrdeistref sirol. Gall unigolion ddod o hyd i'w Llyfrgell Awen agosaf ar eu gwefan.

Mae’n braf iawn gweithio mewn partneriaeth â Halo ac Awen i gynnig cyfle i’r trigolion dderbyn cefnogaeth yn eu hardaloedd lleol.

Mae’r gefnogaeth bellach yma sy’n cael ei chynnig i’n cymoedd ni’n cadarnhau ymrwymiad y cyngor i’r fwrdeistref sirol gyfan.

Er mwyn osgoi unrhyw siwrneiau gwastraffus, fe hoffwn i atgoffa’r trigolion i wirio’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig cyn mynychu. Mae hefyd yn bwysig nodi bod posib delio â llawer o ymholiadau cyffredin drwy wasanaeth ‘Fy Nghyfrif’ ar-lein y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles:

Chwilio A i Y